Tref Caerffili 2035 – Ein Cartref, Ein Stori, Ein Dyfodol

Rydym yn ceisio cynnwys y gymuned yn y cynllun creu lleoedd ar gyfer Canol Tref Caerffili.
Bydd yr ymgysylltiad penodol hwn yn canolbwyntio ar 'ben uchaf y dref' ynghyd â Pharc Dafydd Williams, ac yn gofyn i chi ystyried sut y gallwn ni wella'r ardaloedd hyn fel eu bod yn adlewyrchu'r newidiadau rydych chi am eu gweld.
Rydym yn awyddus i gynnwys y gymuned mewn dull graddol.
1. Gŵyl Syniadau – Awst
2. Profi Syniadau a Gynigir – Tachwedd
3. Gweithredu Syniadau – Ionawr hyd Mawrth 2026
Rydym angen eich help i greu canol tref fywiog ac eisiau i'ch barn lunio'r newidiadau.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae creu lleoedd yn broses sy'n ymateb i anghenion a dymuniadau'r gymuned, ac rydym am i'n cynlluniau adlewyrchu hyn.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Please complete the online survey here: Tref Caerffili 2035 - Arolwg Blynyddol 2025
Diwrnod i'r teulu: Dydd Mercher 13eg Awst, Llyfrgell Caerffili
I'r cyhoedd i gyd: Dydd Sadwrn 6ed Medi, Canol Tref a Llyfrgell Caerffili
Bydd manylion digwyddiadau mis Hydref a 2026 yn cael eu hychwanegu'n agosach at yr amser.
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost at caerphilly2035@wearecowshed.co.uk neu drwy ffonio 02920 789 321
Caiff y digwyddiad hwn ei hwyluso gan Cowshed sy’n bartneriaid ar Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035.
Canlyniadau disgwyliedig
Gyda mewnbwn gan y gymuned, bydd tîm y prosiect yn dylunio cyfres o ymyriadau i wella ‘pen uchaf y dref’ a Pharc Dafydd Williams.
Yna, caiff yr ymyriadau/syniadau prosiect hyn eu rhoi ar waith yn 2026