Treftadaeth Caerfilli - Arwyddion Dehongl

Rhannu Treftadaeth Caerfilli - Arwyddion Dehongl ar Facebook Rhannu Treftadaeth Caerfilli - Arwyddion Dehongl Ar Twitter Rhannu Treftadaeth Caerfilli - Arwyddion Dehongl Ar LinkedIn E-bost Treftadaeth Caerfilli - Arwyddion Dehongl dolen

Photo: "Caerphilly" by fromthevalleys-, licensed under CC BY-ND 2.0.

Mae'r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o rannu bod cyllid wedi'i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i osod arwyddion gwybodaeth a dehongli newydd mewn safleoedd treftadaeth a hanesyddol sydd wedi'u lleoli ar hawliau tramwy cyhoeddus (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig), neu'n agos atyn nhw.

Nod y prosiect yw darparu gwybodaeth am asedau diwylliannol a hanesyddol cyfoethog yr ardal wrth ategu blaenoriaeth allweddol Strategaeth Adfywio'r Cyngor: "Cysylltu Pobl a Lleoedd", drwy wella cysylltedd lleol, rhanbarthol ac ehangach.

Rydyn ni’n chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan gymdeithasau hanes, trigolion, grwpiau cymunedol, a sefydliadau i nodi lleoliadau â straeon lleol cryf a allai ddathlu treftadaeth leol a gwella ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae cynlluniau sydd eisoes wedi’u dylunio a’u costio yn cael blaenoriaeth, o ystyried y cyfyngiadau amser sy’n gysylltiedig â’r cyllid.

Gall arwyddocâd y safle gynnwys:

  • Hynafol a chynhanesyddol
  • Rhufeinig
  • Canoloesol
  • Diwydiannol
  • Amaethyddol a gwledig
  • Milwrol a gwrthdaro
  • Treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol
  • Trafnidiaeth
  • Naturiol/Tirwedd

Rydyn ni’n awyddus i ddathlu a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog a thirnodau hanesyddol Caerffili, gan helpu trigolion ac ymwelwyr i ddarganfod a dysgu am yr asedau lleol pwysig hyn, a’u mwynhau. Trwy osod arwyddion dehongli a gwybodaeth, ein nod yw gwella profiad y rhai sy'n defnyddio ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus drwy roi gwell mewnwelediad i hanes, diwylliant ac arwyddocâd lleoedd ar hyd llwybrau cerdded, beicio a marchogaeth.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os oes gennych safle penodol mewn golwg a byddech chi'n fodlon arwain y prosiect, llenwch y ffurflen hon.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.

Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw adeg yn ystod y prosiect gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost at HawliauTramwy@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 866737.

Canlyniadau Disgwyliedig

Yn dilyn unrhyw gynigion llwyddiannus, byddwn ni’n cysylltu ac yn cydweithio â'r ymgeiswyr i osod arwyddion gwybodaeth o ansawdd uchel, er mwyn creu profiad mwy diddorol ac addysgiadol i ddefnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus, annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r rhwydwaith a gwella dealltwriaeth o dreftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Cyhoeddi: 31 Awst 2026, 10:00 AC