Trwyddedau parcio i breswylwyr

Rhannu Trwyddedau parcio i breswylwyr ar Facebook Rhannu Trwyddedau parcio i breswylwyr Ar Twitter Rhannu Trwyddedau parcio i breswylwyr Ar LinkedIn E-bost Trwyddedau parcio i breswylwyr dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

image of parking permit sign

Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr sy'n byw mewn ardal sy'n dod o dan gynllun parcio i breswylwyr i dreulio ychydig funudau i ddweud wrthym ni beth yw eu barn am y cynllun presennol. Rhowch wybod i ni pa rannau o'r Polisi Trwyddedau Parcio i Breswylwyr presennol, os o gwbl, sydd angen eu diweddaru.

Pam rydym yn ymgynghori?

Ar hyn o bryd, mae grŵp o Gynghorwyr o Bwyllgor Craffu;r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn adolygu'r polisi trwyddedau ac mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r casglu tystiolaeth ar gyfer eu hadolygiad. Yn dilyn eu hadolygiad, bydd y grŵp yn gwneud argymhellion i'r Cabinet eu hystyried.

Wrth i berchnogaeth a defnydd o geir gynyddu, mae'r galw am barcio ar y stryd hefyd wedi cynyddu. Mae'n cael ei gydnabod bod hyn, yn aml, yn fwy na'r lleoedd sydd ar gael mewn llawer o ardaloedd preswyl. Mae'n hawdd deall bod preswylwyr yn dymuno parcio ger eu cartrefi, ond nid oes rhwymedigaeth ar awdurdodau priffyrdd i ddarparu parcio ar briffyrdd cyhoeddus. Mae priffyrdd cyhoeddus yn cael eu darparu a'u cynnal ar draul y cyhoedd i hwyluso symud pobl, traffig a nwyddau, a chyfrifoldeb y perchnogion cerbydau yw sicrhau bod digon o le i barcio'r cerbydau maen nhw’n berchen arnynt.

Mae'r Cyngor yn gallu cyflwyno cynlluniau parcio i breswylwyr yn unig, ond rhaid nodi nad ydyn nhw'n datrys y broblem lle mae'r nifer o gerbydau sy'n berchen i breswylwyr yn fwy na'r ddarpariaeth parcio ar y stryd sydd ar gael.

Cafodd y polisi presennol ei adolygu ddiwethaf yn 2019 ac mae’n cael ei ailasesu ar hyn o bryd i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Fel preswylydd sy'n byw mewn ardal sy'n dod o dan gynllun parcio i breswylwyr, hoffen ni glywed eich barn chi fel y gallwn ni nodi unrhyw feysydd o'r polisi y mae angen eu diweddaru (os o gwbl) a gwneud argymhellion i'r Cabinet.

Ffyrdd o roi eich barn

Os hoffech chi rannu eich barn, llenwch yr arolwg yma.

Os byddai'n well gennych gopi caled ac amlen ragdaledig, e-bostiwch Craffu@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 864267 gan roi eich cyfeiriad.

Canlyniadau disgwyliedig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi cynlluniau i addasu ei Bolisi Parcio i Breswylwyr, yn dilyn ymgynghoriad â deiliaid trwydded.

Cafodd y newidiadau eu cymeradwyo'n unfrydol mewn cyfarfod Cabinet y Cyngor ar 5 Mehefin. Yn ystod y cyfarfod, cafodd canlyniadau ymarfer ymgynghori diweddar, a gafodd ei gynnal gyda'r holl ddeiliaid trwydded barcio i breswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol, eu cyflwyno i aelodau'r Cabinet.