Cais o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 – Ecobrix-UK Limited
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Mae'r cwmni o'r enw: Ecobrix-UK Ltd, Environmental Innovation Center, Cambeltown Road, Wirral, Birkenhead, Y Deyrnas Unedig, CH41 9HP, Rhif y Cwmni: 14404288, wedi gwneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am drwydded i gymysgu, pacio, llwytho, dadlwytho a defnyddio sment yn Uned 8, Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, Caerffili, CF83 8GE.
Pam rydym yn ymgynghori?
Yn ddiweddar, fe wnaeth Ecobrix-UK Ltd brynu'r busnes gan Durisol UK Ltd, Parcffordd, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, Casnewydd, NP11 3EF a gafodd ei ganiatáu ar gyfer yr un defnydd gennym ni, ac mae'r gweithrediad yn cael ei symud i adeilad newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas felly mae cais am osodiad newydd wedi'i gyflwyno.
Ffyrdd o roi eich barn
Mae'r cais wedi'i roi ar y gofrestr gyhoeddus yn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG, ac mae modd ei harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol.
Dylid gwneud unrhyw sylwadau ysgrifenedig ar y cais i: Iechyd yr Amgylchedd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG neu eu cyfeirio at gweinyddui@caerfili.gov.uk erbyn 26 Gorffennaf.
Bydd pob sylw ysgrifenedig yn cael ei gynnwys ar y gofrestr gyhoeddus oni bai ei fod yn cynnwys datganiad yn gofyn am beidio â'i gynnwys. Os bydd cais o'r fath, bydd y gofrestr ei hun yn cynnwys nodyn i ddweud bod sylwadau wedi'u gwneud sydd ddim ar y gofrestr oherwydd cais o'r fath.
Canlyniadau disgwyliedig
Rhoddir ystyriaeth ddyledus i holl ymatebion yr ymgynghoriad cyn cyhoeddi Trwydded Amgylcheddol derfynol.