Ymgynghoriad: Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003

Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu adolygu Datganiad y Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Mae'r Polisi Trwyddedu yn rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ac yn manylu ar y dull sy'n cael ei ddefnyddio gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth ystyried ceisiadau newydd o dan y Ddeddf a disgwyliadau deiliaid trwydded a thystysgrif presennol o dan y Ddeddf Trwyddedu.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae'n ofynnol i'r Awdurdod ymgynghori ar ddiwygio Datganiad y Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu Act 2005 bob pum mlynedd.
Nod y datganiad o bolisi trwyddedu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd, diogelu plant rhag niwed, atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anhrefn wrth annog diwydiant hamdden ac adloniant cynaliadwy.
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi'r amrywiol ffactorau y byddan nhw'n eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf mewn perthynas â hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu.
Mae'r Cyngor yn cydnabod disgwyliadau trigolion lleol ar gyfer amgylchedd diogel ac iach i fyw a gweithio ynddo, a'r angen i ddarparu cyfleusterau adloniant, lletygarwch a hamdden diogel sy'n cael eu cynnal yn dda ledled y Fwrdeistref Sirol.
Daeth ein polisi cyfredol i rym ar 1 Ionawr 2020 ac mae bellach yn destun adolygiad.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Llenwch yr arolwg ar-lein neu, fel arall, mae modd anfon sylwadau drwy'r post at y Tîm Trwyddedu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG.
Cyfnod Ymgynghori 7/7/2025 - 11/8/2025
This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu a Gamblo yn yr hydref, gyda'r bwriad o'i osod gerbron y Cyngor Llawn ar gyfer penderfyniad ym mis Tachwedd 2025.
Cynnal adolygiad pum mlynedd o'r Polisi Trwyddedu presennol yn unol â gofynion deddfwriaethol.