Ymgynghoriad ar Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl 2024
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Mae'r Cyngor yn ceisio barn ar y polisi arfaethedig Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl 2024 (‘y Polisi’).
Mae'r Polisi'n manylu ar sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (‘y Cyngor’) yn darparu cymorth ariannol i helpu perchnogion preifat (gan gynnwys landlordiaid sector preifat) a, lle bo'n briodol, ddeiliaid contract (sef tenantiaid gynt) i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi nhw. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ddull y Cyngor o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sector preifat. (Nid yw'r Polisi hwn yn ymestyn i ddeiliaid contract Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig na'u stoc tai nhw).
Dydyn ni ddim yn gallu ymateb i unrhyw faterion personol sydd wedi'u cynnwys yn eich ymateb chi. Os ydych chi'n pryderu am fater penodol ynghylch tai sector preifat, cysylltwch â gwasanaeth Tai'r Sector Preifat am gyngor neu gymorth ar 01443 811378 neu drwy e-bostio: TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
Llinell amser yr ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am gyfnod o 8 wythnos, gan agor ddydd Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023 a chau ddydd Gwener 16 Chwefror 2024. Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu. Bydd y Polisi'n cael ei fireinio yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a'i gyflwyno i Gabinet y Cyngor i'w gymeradwyo. Ein nod yw cyhoeddi fersiwn derfynol y Polisi ym mis Ebrill 2024.
Sut i ymateb
Mae modd i chi gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- Trwy'r holiadur ar-lein
- Lawrlwytho ffurflen ymateb a'i e-bostio i TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk; neu
- Gofyn am ffurflen ymateb, a'i dychwelyd i:
Tai'r Sector Preifat
Blwch Swyddfa'r Post 128
Hengoed
CF82 9BP
Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth
Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei darparu gennych chi'n cael ei defnyddio gan y Cyngor fel rhan o ddatblygiad Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl 2024. Bydd yr wybodaeth sy'n dod i law yn ystod yr ymarfer ymgynghori yn cael ei defnyddio i asesu a yw'r Polisi'n diwallu anghenion trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd yr holl wybodaeth bersonol sy'n cael ei rhoi yn ystod yr ymarfer ymgynghori yn cael ei chadw am uchafswm o 3 mis ar ôl i'r Polisi gael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor.
Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.
Am ragor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu’ch gwybodaeth a'ch hawliau, ewch i: www.caerffili.gov.uk/my-council/strategies,-plans-and-policies/housing/private-sector-renewal-strategy?lang=cy-gb