Ymgynghoriad ar ganolfannau hamdden 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig lleihau nifer y canolfannau hamdden ledled yr ardal ac yn ceisio barn trigolion ar y cynlluniau.
Ar hyn o bryd, mae Caerffili yn gweithredu mwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, gyda llawer o adeiladau sy'n heneiddio gyda chostau cynnal a chadw a rhedeg sylweddol.
Yn 2018, mabwysiadodd y Cyngor Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 10 mlynedd sy’n cynnig gostyngiad yn nifer cyffredinol y cyfleusterau, gyda ffocws ar bedwar canolfan hamdden strategol yn Rhisga, Heolddu, Caerffili a Threcelyn.
Ar ddydd Iau 16 Ionawr, cytunodd Cabinet y Cyngor i fwrw ymlaen i ymgynghori ar gynlluniau a allai arwain at gau Canolfan Hamdden Bedwas, Canolfan Hamdden Cefn Fforest a Chanolfan Hamdden Tredegar Newydd ddiwedd mis Gorffennaf 2025.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Hamdden, y Cynghorydd Chris Morgan, “Dyma’r cam nesaf wrth weithredu ein Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 10 mlynedd, sydd wedi’i chyflymu gan yr heriau ariannol heb eu tebyg o'r blaen mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau hamdden yn y dyfodol ac rydw i’n awyddus i dynnu sylw at y buddsoddiad enfawr sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf mewn cyfleusterau modern, addas i’r diben fel caeau 3G, hwb athletau, cyfleusterau nofio wedi’u huwchraddio a chyfleusterau chwaraeon eraill.
Os byddwn ni’n bwrw ymlaen gyda’n cynlluniau i leihau’r nifer o ganolfannau hamdden i 4 canolfan hamdden strategol, yna bydd bron pob cymuned yn y Fwrdeistref Sirol o fewn pellter teithio 5 milltir i un o’r 4 safle strategol.
Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud hyd yma, ac mae’r cam ymgynghori yn cael ei gymeradwyo, mae’n hanfodol bod cymaint o bobl â phosibl yn ymgysylltu ac yn rhoi adborth i’n helpu ni i lunio’r ffordd rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth allweddol hwn yn y dyfodol.”
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfnod o 7 wythnos, gan ddechrau ar 22 Ionawr a bydd yn cau ar 12 Mawrth.
Sut galla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?
Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi ddweud eich dweud.
Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg ar-lein neu argraffu’r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Ymgysylltu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.
I gael cymorth o ran llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.
Galw heibio am sgwrs yn un o'r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:
Dyddiad | Lleoliad sesiynau galw heibio | Amser |
Dydd Mercher 19 Chwefror 2025 | Canolfan Hamdden Tredegar Newydd | 6-8pm |
Dydd Iau 20 Chwefror 2025 | Canolfan Hamdden Bedwas | 6-8pm |
Dydd Gwener 21 Chwefror 2025 | Canolfan Hamdden Cefn Fforest | 12-2pm |
Dydd Mawrth 4 Mawrth 2025 | Canolfan Hamdden Tredegar Newydd | 12-2pm |
Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 | Canolfan Hamdden Cefn Fforest | 6-8pm |
Dydd Gwener 7 Mawrth 2025 | *** Newid i'r lleoliad *** Bedwas Workmen's Hall | 12-2pm |
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.
Gofyn am gael ymuno yn un o'n sesiynau ar-lein drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380:
Dyddiad | Amser |
Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025 | 11am - 1pm |
Dydd Llun 10 Mawrth 2025 | 5.30pm - 7.30pm |
Beth fyddwch chi'n ei wneud â barn pobl?
Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i'r Cabinet am benderfyniad. Bydd copi o'r adroddiad adborth ar gael ar dudalen Trafodaeth Caerffili pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben ac ar ôl cwblhau dadansoddi'r ymatebion.