Rhannu Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cartrefi Gwag ar FacebookRhannu Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cartrefi Gwag Ar TwitterRhannu Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cartrefi Gwag Ar LinkedInE-bost Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cartrefi Gwag dolen
Cartrefi Caerffili - cartrefi gwag 2025.
Mae Cartrefi Caerffili yn cysylltu â thenantiaid (ein cwsmeriaid) sydd wedi symud i mewn i un o’n cartrefi ni neu wedi gadael un yn ddiweddar. Mae eich adborth yn hynod werthfawr a bydd yn ein helpu ni i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a ble y gallwn ni wneud gwelliannau.
P'un a ydych chi'n setlo mewn cartref newydd neu'n paratoi i adael un, mae eich profiad chi’n bwysig. Trwy ddysgu rhagor am eich profiad, ein nod ni yw gwella ansawdd ac ymatebolrwydd cyffredinol ein gwasanaethau tai.
Er mwyn sicrhau bod yr ymgysylltiad hwn yn ystyrlon, rydyn ni’n defnyddio dull wedi'i dargedu ac yn siarad yn uniongyrchol â thenantiaid sydd wedi mynd trwy'r broses symud yn ddiweddar fel y gallwn ni gasglu mewnwelediadau amserol a pherthnasol.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Rydyn ni hefyd yn adolygu ein proses Cartrefi Gwag i wella a symleiddio sut mae pethau'n cael eu gwneud. Mae'r gwaith hwn yn cynorthwyo blaenoriaeth y Cabinet ar gyfer 2025/26 i gynyddu argaeledd tai ac yn cyfrannu at ein rhaglen newid ehangach.
Mae Cartrefi Caerffili wedi ymrwymo i wrando ar ein tenantiaid a dysgu o'ch profiadau chi. Bydd yr adborth rydych chi'n ei rannu yn helpu siapio gwelliannau yn y gwasanaeth yn y dyfodol a sicrhau bod eich anghenion chi’n parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Nid yw hwn yn ymgynghoriad agored. Rydyn ni’n defnyddio dull wedi'i dargedu ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â thenantiaid sydd wedi profi'r gwasanaethau hyn yn ddiweddar. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer yr ymgysylltiad hwn, byddwn ni’n cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Canlyniadau disgwyliedig
Gwybodaeth a fydd yn galluogi Cartrefi Caerffili i ddatblygu a gwella gwasanaethau adarparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra yn fwy i'r rhai sy'n symud i mewn neu'n gadael eu cartref.