Rhannu Ysgol Gynradd Rhydri ar FacebookRhannu Ysgol Gynradd Rhydri Ar TwitterRhannu Ysgol Gynradd Rhydri Ar LinkedInE-bost Ysgol Gynradd Rhydri dolen
Ysgol Gynradd Rhydri - Rudry, Caerffili CF83 3DF
Cynnig
Mae’r cynnig yn ymwneud â chau Ysgol Gynradd Rhydri o fis Gorffennaf 2025, yn dilyn cais i ymgynghori gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol a wnaed yn eu cyfarfod ar 14 Mawrth 2024.
Cam Ymgynghori: Ar y gweill Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gorffennaf 2025
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae'r gofyniad i ymgynghori yn berthnasol i bob un o'n cynigion ysgolion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir (fel y'i diffinnir gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018). Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan ein Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a Chabinet y Cyngor.
Mae Cam 1 o'r broses wedi'i gynllunio i gasglu'ch barn a fydd yn cael ei chrynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori.
Er mwyn i'r rhain gael eu cynnwys, rhaid eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cyflwyno o fewn dyddiadau'r cyfnod ymgynghori.
Mae cam 3 o'r broses yn darparu bod unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu cynnig trefniadaeth ysgol yn cael cyfle i wneud hynny. Er mwyn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig a'u hanfon at y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.

Dyma’r cam ymgynghori cyntaf yn y broses yn dilyn y canllawiau sydd wedi'u hamlinellu yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018. Rydyn ni'n casglu eich ‘barn’ am ein cynnig.
Cam 2 - Adroddiad Ymgynghori
Ysgol Gynradd Rhydri wedi gorffen y cam hwn
Yn seiliedig ar eich adborth, yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid fel Estyn, byddwn ni'n cynhyrchu Adroddiad Ymgynghori a fydd yn crynhoi'r ymatebion, yn egluro unrhyw themâu sydd wedi cael eu codi ac yn galluogi'r Cabinet i benderfynu a ddylai'r prosiect symud ymlaen i'r cam nesaf.
Cam 3 - Hysbysiad Statudol
Ysgol Gynradd Rhydri ar hyn o bryd yw
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet yng Ngham 2, byddwn ni'n cynhyrchu Hysbysiad Statudol a bydd Cyfnod Gwrthwynebu yn agor yn ffurfiol am 28 diwrnod. Bydd angen cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig fel sydd wedi'i hamlinellu yn y ddogfennaeth.
Cam 4 - Hysbysiad o Benderfyniad
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Ysgol Gynradd Rhydri
Yn seiliedig ar yr ymatebion a ddaeth i law yn ystod Cyfnod yr Hysbysiad Statudol, byddwn ni'n cynhyrchu Adroddiad Gwrthwynebu i alluogi'r Cabinet i wneud y Penderfyniad Terfynol ynghylch a fydd y cynnig yn symud ymlaen i'r Cais Cynllunio.