Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre

Rhannu Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre ar Facebook Rhannu Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre Ar Twitter Rhannu Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre Ar LinkedIn E-bost Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre dolen

Ysgol Iau Hendre - Heol Sant Cenydd, Caerffili CF83 2RP
Ysgol Fabanod Hendre - Heol Sant Cenydd, Caerffili CF83 2RP

Beth rydyn ni'n ei gynnig?

Mae’r cynnig yn ymwneud â chyfuno Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Fabanod Hendre i greu un ddarpariaeth Ysgol Gynradd ar gyfer disgyblion 3 i 11 oed o fis Medi 2025.

Mae’r ddwy ysgol wedi bod yn ‘cydweithio’ yn anffurfiol ers nifer o flynyddoedd ac mae’r cais i ymgynghori ar gyfuno wedi’i wneud mewn partneriaeth â’r ddau Gorff Llywodraethu.

Cam Ymgynghori: Ar y gweill
Dyddiad cwblhau arfaethedig: Medi 2025

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae'r gofyniad i ymgynghori yn berthnasol i bob un o'n cynigion ysgolion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir (fel y'i diffinnir gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018). Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan ein Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a Chabinet y Cyngor.

Mae Cam 1 o'r broses wedi'i gynllunio i gasglu'ch barn a fydd yn cael ei chrynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Er mwyn i'r rhain gael eu cynnwys, rhaid eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cyflwyno o fewn dyddiadau'r cyfnod ymgynghori.

Mae cam 3 o'r broses yn darparu bod unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu cynnig trefniadaeth ysgol yn cael cyfle i wneud hynny. Er mwyn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig a'u hanfon at y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Post: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif)
Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Ymateb electronig: Trwy'r ddolen Microsoft Forms isod

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, dim ond ar Gam 3 y bydd Gwrthwynebiadau Ffurfiol yn ddilys, pan fydd yr Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi a'r cyfnod Gwrthwynebu’n agor

Diweddaru: 09 Sep 2024, 04:51 PM