Ymgynghoriad Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf

Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf dolen

Beth rydyn ni'n ei gynnig?

Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf

Mae'r cynnig am geisio creu adeilad ysgol newydd Carbon Sero Net sy’n cynnwys cyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned. Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn yr adeilad deuddiben newydd.

Beth yw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy?

Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, gynt) yn rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol fawr, hirdymor. Mae’n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a’i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae'r gofyniad i ymgynghori yn berthnasol i bob un o'n cynigion ysgolion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir (fel y'i diffinnir gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018). Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan ein Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a Chabinet y Cyngor.

Mae Cam 1 o'r broses wedi'i gynllunio i gasglu'ch barn a fydd yn cael ei chrynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Er mwyn i'r rhain gael eu cynnwys, rhaid eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cyflwyno o fewn dyddiadau'r cyfnod ymgynghori.

Mae cam 3 o'r broses yn darparu bod unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu cynnig trefniadaeth ysgol yn cael cyfle i wneud hynny. Er mwyn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig a'u hanfon at y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Post: Cynnig Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Ymateb electronig: Trwy'r ddolen Microsoft Forms isod (Ar Gau)

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, dim ond ar Gam 3 y bydd Gwrthwynebiadau Ffurfiol yn ddilys, pan fydd yr Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi a'r cyfnod Gwrthwynebu’n agor.

Diweddaru: 07 Mar 2024, 08:27 AC