Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod
Rhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod ar FacebookRhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod Ar TwitterRhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod Ar LinkedInE-bost Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod dolen
Pam rydyn ni’n cael y drafodaeth ‘Canol Tref Bargod Yfory’ â’n cymuned?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi comisiynu The Urbanists i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol tref Bargod. Bydd trafodaeth ‘Canol Tref Bargod Yfory’ yn ein helpu ni i sicrhau bod dymuniadau ac anghenion y gymuned yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd hwn.
Beth yw Cynllun Creu Lleoedd?
Mae Cynllun Creu Lleoedd yn gynllun hirdymor ar gyfer lle; mae’n nodi’r hyn sy’n unigryw am y lle ac yn awgrymu prosiectau a buddsoddiad a allai grymuso’r lle. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn darparu’r cynllun sylfaenol ar gyfer gwella lle ac yn sicrhau bod yr holl agweddau sy’n gwneud lle’n wych i fyw, gweithio ac ymweld ag e yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth arbenigwyr lleol.
Beth yw rôl y gymuned wrth lunio’r Cynllun Creu Lleoedd a dyfodol Bargod?
I sicrhau bod anghenion a dyheadau’r gymuned leol yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd, mae strategaeth ymgysylltu wedi cael ei datblygu. Mae’r strategaeth yn nodi’r trigolion, perchnogion busnes a grwpiau lleol fel rhanddeiliaid i’w hymgysylltu â nhw. Felly, mae’r canllaw hwn ar gyfer y drafodaeth wedi’i ddatblygu i ddarparu deunydd ategol i hwyluso’r gwaith ymgysylltu hwn.
Beth ydyn ni am ei gael o’r trafodaethau?
Yn syml, rydyn ni angen deall y pethau sydd pwysicaf i’r gymuned a grwpiau lleol, a’u huchelgeisiau ar gyfer canol tref Bargod.
Beth ydych chi ei angen gen i?
Ein helpu ni i gael y trafodaethau hynny! Fel cynghorwyr, partneriaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, bydd gennych chi grwpiau rydych chi’n ymwneud â nhw neu’n cael cyswllt rheolaidd â nhw. Hoffem ni gael eich cymorth chi i’n helpu ni i fynd allan a sgwrsio â chynifer o bobl â phosibl. Gweler isod rai canllawiau ac awgrymiadau ar gyfer dechrau’r drafodaeth:
Beth ydych chi’n meddwl sy’n unigryw am Fargod?
Beth sy’n gwneud Bargod yn arbennig?
Sut gallwn ni wella canol y dref?
Ydych chi’n beicio? Os nad ydych chi, pam ddim?
Ydych chi’n ymweld â chanol y dref? Os ydych chi, pa mor aml ac am ba reswm? Os nad ydych chi, pam ddim?
Ydy Bargod wedi’i gysylltu’n dda? Os nad ydy, sut gall hwn gael ei wella?
Pa fath o amwynderau a darpariaethau hoffech chi eu gweld ym Margod?
Hoffech chi weld rhagor o goed a glesni yng nghanol y dref?
Beth hoffech chi ei wneud yng nghanol y dref sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd?
Sut ydych chi’n meddwl gall y dref gael ei gwella i gynorthwyo iechyd a lles trigolion?
Pa ddefnyddiau neu anghenion eraill y gymuned allai gael sylw?
Mae chwe phrif gategori y dylai pob Cynllun Creu Lleoedd ei ystyried er mwyn sicrhau canlyniad o safon.
Y chwe chategori yw:
1. Pobl a'r gymuned
2. Lleoliad
3. Symud
4. Cymysgedd o ddefnyddiau
5. Tir y cyhoedd
6. Hunaniaeth

Rhannu Hunaniaeth ar FacebookRhannu Hunaniaeth Ar TwitterRhannu Hunaniaeth Ar LinkedInE-bost Hunaniaeth dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Hunaniaeth’?
Unrhyw sylw mewn perthynas ag ymdeimlad o berthyn/hunaniaeth gryf, cymuned gryf, digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol, mannau diogel a chynhwysol, treftadaeth a hanes lleol.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Symud ar FacebookRhannu Symud Ar TwitterRhannu Symud Ar LinkedInE-bost Symud dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Symud’?
Unrhyw sylw am symudiadau cerddwyr, beiciau a cherbydau, mannau parcio, trafnidiaeth gyhoeddus, hygyrchedd.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Lleolaid ar FacebookRhannu Lleolaid Ar TwitterRhannu Lleolaid Ar LinkedInE-bost Lleolaid dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Lleoliad’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â chyrchfannau lleol, cysylltiadau ag amwynderau lleol, cysylltedd digidol, bioamrywiaeth, effeithlonrwydd ynni.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Pobl a’r gymuned ar FacebookRhannu Pobl a’r gymuned Ar TwitterRhannu Pobl a’r gymuned Ar LinkedInE-bost Pobl a’r gymuned dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Pobl a’r gymuned’?
Unrhyw sylw mewn perthynas ag iechyd a lles, ymgysylltu, ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth gymunedol.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Tir y cyhoedd ar FacebookRhannu Tir y cyhoedd Ar TwitterRhannu Tir y cyhoedd Ar LinkedInE-bost Tir y cyhoedd dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Tir y cyhoedd’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â niferoedd ac ansawdd o ran tir y cyhoedd, amwynderau awyr agored, darpariaethau chwaraeon, chwarae a hamdden, mannau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynulliadau cymdeithasol digymell, parciau a mannau gwyrdd, rheoli dŵr, tir y cyhoedd cydnerth.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Cymysgedd o ddefnyddiau ar FacebookRhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar TwitterRhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar LinkedInE-bost Cymysgedd o ddefnyddiau dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Cymysgedd o ddefnyddiau’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â’r arlwy manwerthu, yr arlwy bwyd a diod, nifer yr unedau preswyl sydd eu hangen, nifer yr ymwelwyr, gwasanaethau lleol, ffurfiau adeiladau, adeiladau hanesyddol a rhestredig, cyfradd wacter, ansawdd stoc adeiladau.