Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod
Rhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod ar FacebookRhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod Ar TwitterRhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod Ar LinkedInE-bost Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Bargod dolen
Pam rydyn ni’n cael y drafodaeth ‘Canol Tref Bargod Yfory’ â’n cymuned?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi comisiynu The Urbanists i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol tref Bargod. Bydd trafodaeth ‘Canol Tref Bargod Yfory’ yn ein helpu ni i sicrhau bod dymuniadau ac anghenion y gymuned yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd hwn.
Beth yw Cynllun Creu Lleoedd?
Mae Cynllun Creu Lleoedd yn gynllun hirdymor ar gyfer lle; mae’n nodi’r hyn sy’n unigryw am y lle ac yn awgrymu prosiectau a buddsoddiad a allai grymuso’r lle. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn darparu’r cynllun sylfaenol ar gyfer gwella lle ac yn sicrhau bod yr holl agweddau sy’n gwneud lle’n wych i fyw, gweithio ac ymweld ag e yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth arbenigwyr lleol.
Beth yw rôl y gymuned wrth lunio’r Cynllun Creu Lleoedd a dyfodol Bargod?
I sicrhau bod anghenion a dyheadau’r gymuned leol yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd, mae strategaeth ymgysylltu wedi cael ei datblygu. Mae’r strategaeth yn nodi’r trigolion, perchnogion busnes a grwpiau lleol fel rhanddeiliaid i’w hymgysylltu â nhw. Felly, mae’r canllaw hwn ar gyfer y drafodaeth wedi’i ddatblygu i ddarparu deunydd ategol i hwyluso’r gwaith ymgysylltu hwn.
Medi 2025
Cafodd cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Bargod a Choed Duon eu mabwysiadu gan y Cyngor yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025.
Bydd swyddogion y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i weithredu'r cynlluniau.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a busnesau am y Cynlluniau a thrafod y ffordd ymlaen ar gyfer adfywio yn ein trefi.
Galwch heibio am sgwrs yn un o’r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:
📍Llyfrgell Bargod, Hanbury Road, Bargod CF81 8QR
📆 Dydd Mawrth 23 Medi
⏰ 15:00 – 18:00
📆 Dydd Mercher 24 Medi
⏰ 13:00 – 16:00
📆 Dydd Iau 25 Medi
⏰ 09:30 – 12:00
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost at regenprojects@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 866379.

Rhannu Hunaniaeth ar FacebookRhannu Hunaniaeth Ar TwitterRhannu Hunaniaeth Ar LinkedInE-bost Hunaniaeth dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Hunaniaeth’?
Unrhyw sylw mewn perthynas ag ymdeimlad o berthyn/hunaniaeth gryf, cymuned gryf, digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol, mannau diogel a chynhwysol, treftadaeth a hanes lleol.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Symud ar FacebookRhannu Symud Ar TwitterRhannu Symud Ar LinkedInE-bost Symud dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Symud’?
Unrhyw sylw am symudiadau cerddwyr, beiciau a cherbydau, mannau parcio, trafnidiaeth gyhoeddus, hygyrchedd.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Lleolaid ar FacebookRhannu Lleolaid Ar TwitterRhannu Lleolaid Ar LinkedInE-bost Lleolaid dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Lleoliad’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â chyrchfannau lleol, cysylltiadau ag amwynderau lleol, cysylltedd digidol, bioamrywiaeth, effeithlonrwydd ynni.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Pobl a’r gymuned ar FacebookRhannu Pobl a’r gymuned Ar TwitterRhannu Pobl a’r gymuned Ar LinkedInE-bost Pobl a’r gymuned dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Pobl a’r gymuned’?
Unrhyw sylw mewn perthynas ag iechyd a lles, ymgysylltu, ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth gymunedol.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Tir y cyhoedd ar FacebookRhannu Tir y cyhoedd Ar TwitterRhannu Tir y cyhoedd Ar LinkedInE-bost Tir y cyhoedd dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Tir y cyhoedd’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â niferoedd ac ansawdd o ran tir y cyhoedd, amwynderau awyr agored, darpariaethau chwaraeon, chwarae a hamdden, mannau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynulliadau cymdeithasol digymell, parciau a mannau gwyrdd, rheoli dŵr, tir y cyhoedd cydnerth.
Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.
Rhannu Cymysgedd o ddefnyddiau ar FacebookRhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar TwitterRhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar LinkedInE-bost Cymysgedd o ddefnyddiau dolen
Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Cymysgedd o ddefnyddiau’?
Unrhyw sylw mewn perthynas â’r arlwy manwerthu, yr arlwy bwyd a diod, nifer yr unedau preswyl sydd eu hangen, nifer yr ymwelwyr, gwasanaethau lleol, ffurfiau adeiladau, adeiladau hanesyddol a rhestredig, cyfradd wacter, ansawdd stoc adeiladau.