Cwestiynau cyffredin
Pam mae’r Cynllun Creu Lleoedd yn bwysig i Fargod?
Mae angen Cynlluniau Creu Lleoedd i helpu awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid a allai gael ei ddefnyddio yng nghanol y dref. Bydd cael Cynllun Creu Lleoedd yn galluogi’r Cyngor i wneud cais am gyllid a allai gael ei wario ar gyfer adfywio canol tref Bargod.
Faint o amser mae’n ei gymryd i wireddu Cynllun Creu Lleoedd?
Mae Cynllun Creu Lleoedd yn gynllun hirdymor ar gyfer lle. Mae’n cael ei wireddu dros gyfnod o 10 i 15 o flynyddoedd. Mae hefyd yn cynnwys camau gweithredu a phrosiectau tymor byr a allai ddarparu newid ar unwaith sy’n gallu creu momentwm yng nghanol trefi.