Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) Ailddatblygu Cyfnewidfa Caerffili
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Mae Grimshaw Architects wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Trafnidiaeth Cymru i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas ag ailddatblygu Gorsaf Caerffili, Heol Caerdydd, Caerffili, Cymru, CF83 1JR
Rydym yn rhoi hysbysiad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad canlynol:
Cynnig i ddymchwel ac ailddatblygu Gorsaf Caerffili i greu cyfnewidfa drafnidiaeth integredig a hygyrch newydd sy’n cysylltu dulliau trafnidiaeth rheilffyrdd, bysiau, tacsis a theithio llesol yn ddi-dor. Gan gynnwys cynyddu nifer yr arosfannau bysiau o 11 i 12, a’r baeau disgwyl i fysiau o 3 i 4. Ochr yn ochr â chyfleusterau cyhoeddus newydd, canolfan teithio llesol a chyfleusterau manwerthu.
Pam rydym yn ymgynghori?
Cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd), mae’r cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Mae’r holl luniadau, adroddiadau a dogfennau ategol atodol perthnasol ar gael i’w harchwilio a’u hadolygu ar-lein isod ac yn Llyfrgell Caerffili fel copi ffisegol i’w adolygu
Ffyrdd o roi eich barn
Rhaid i unrhyw un sydd am wneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig hwn wneud hynny erbyn 01/09/2023. Byddem yn eich annog i anfon y rhain dros e-bost at engineadteam@caerphilly.gov.uk. Fel arall, lawrlwythwch y ffurflen ymateb a'i hanfon at:
Clive Campbell (Parthed: Ailddatblygu Cyfnewidfa Caerffili), Is-adran Seilwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd canlyniadau’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio hwn yn cael eu cynnwys yn y Cais Cynllunio Llawn sydd ar y gweill ar ffurf Adroddiad yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC).