Cyfnewidfa Caerffili - Ymgynghoriad Cyhoeddus Cam 3

Rhannu Cyfnewidfa Caerffili - Ymgynghoriad Cyhoeddus Cam 3 ar Facebook Rhannu Cyfnewidfa Caerffili - Ymgynghoriad Cyhoeddus Cam 3 Ar Twitter Rhannu Cyfnewidfa Caerffili - Ymgynghoriad Cyhoeddus Cam 3 Ar LinkedIn E-bost Cyfnewidfa Caerffili - Ymgynghoriad Cyhoeddus Cam 3 dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben .

Yr arddangosfa hon yw trydydd cam ein gwaith ymgysylltu â’r gymuned, a ddechreuodd ar-lein ym mis Mehefin 2022 drwy wefan Commonplace.

Gallwch chi weld cynnwys a chanlyniadau ein mapio, ein holiadur ac ein syniadau cychwynnol o hyd.

Pwrpas yr arddangosfa hon yw rhannu ein cynigion terfynol ar gyfer y Gyfnewidfa ac egluro sut mae eich adborth wedi helpu i’w siapio.

Ein briff oedd trawsnewid profiad gwael cwsmeriaid yn yr orsaf bresennol drwy greu adeilad cyfnewidfa newydd a thir cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n ddiogel, yn integredig, yn gynaliadwy ac yn hygyrch, ac sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf.

Mae’r cyfleusterau newydd wedi’u cynllunio i ddiwallu twf ac anghenion Caerffili, a dod yn rhan amlwg o wead y dref ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys 9 bwrdd gwahanol a model wrth raddfa. Mae’r byrddau wedi’u rhifo mewn trefn. Mae pob bwrdd yn ddwyieithog ac eithrio 3 a 4 sy’n cael eu darparu ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydyn ni'n croesawu eich adborth chi drwy ddefnyddio naill ai'r holiadur ffisegol (ar gael yn y llyfrgell) neu blatfform ar-lein Trafodaeth Caerffili.

Bydd cais cynllunio ar gyfer y dyluniadau a ddangosir yma yn cael ei gyflwyno ddiwedd mis Mehefin lle byddwch yn gallu rhoi sylwadau arnynt yn y ffordd arferol drwy borth cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dweud Eich Dweud

Hyd yr ymgynghoriad cyhoeddus

Dydd Llun 5 Mehefin i ddydd Gwener 16 Mehefin 2023

Lleoliad yr ymgynghoriad cyhoeddus

Llyfrgell Caerffili, 2 Y Twyn, Caerffili CF83 1JL

Cwrdd â'r Tîm Dylunio

Dydd Mercher 14 Mehefin: 9.30am tan 1pm a 2pm tan 6pm

Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at GweinPeirianneg@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 863476.

Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol

Yng Ngham 1 ein rhaglen Ymgysylltu â’r Gymuned (map gwres ar-lein a holiadur), cawsom 198 o sylwadau ar fap yr orsaf, a 408 o ymatebion unigol i’n holiadur.

O’r ymatebion hyn, a thrwy ein hastudiaethau dylunio cychwynnol, fe wnaethom nodi 4 problem allweddol yn yr orsaf bresennol y byddai angen i unrhyw ddyluniad newydd fynd i’r afael â nhw.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 2

Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi

Yng Ngham 2 ein Hymgysylltu â’r Gymuned (rhannu ein syniadau a’n holiadur ar-lein), cawsom 220 o sylwadau ar ein cynigion ar draws saith thema a maes mewn perthynas â safle’r gyfnewidfa.

Cyflwynir crynodeb o’r adborth hwn yma, ac rydym wedi defnyddio hwn i lywio datblygiad pellach ein dyluniadau.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 3

Bwrdd 4 - Cam 2: Fe wnaethom ni

O Gam 2 ein Hymgysylltu â’r Gymuned, fe wnaethom nodi 5 thema gyffredin rydym wedi ceisio mynd i’r afael â nhw wrth i ni ddatblygu ein dyluniadau.

Yma rydym yn egluro sut rydym wedi addasu ein cynigion o’r adborth a gafwyd, a hefyd lle rydym wedi parhau â’n cynigion gwreiddiol, gan nodi’r rhesymau dros hynny.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 4

Bwrdd 5 - Cynllun Gwell i'r Orsaf

Mae’r darlun hwn yn dangos ein cynigion ar gyfer dyluniad newydd Cyfnewidfa Caerffili, gan ganolbwyntio ar adeiladau a chyfleusterau’r orsaf.

Mae’r ardal rhwng Heol Caerdydd a Rhes yr Orsaf yn darparu ‘asgwrn cefn’ yr orsaf, sy’n gartref i’r siopau, y swyddfa docynnau a’r cyfleusterau toiled.

Ar y lefel uchaf, mae’r ganolfan teithio llesol ac adeilad manwerthu / cymunedol hyblyg sy'n agor i dir cyhoeddus newydd gyda golygfeydd o Gastell Caerffili.

Mae mannau aros ar gael mewn adeiladau ysgafn ar hyd y cyntedd bysiau, Platfform 2 a Phlatfform 3. Mae strwythur canopi dur newydd dros y gofod mewnol yn uno’r gyfnewidfa gyfan.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 5

Bwrdd 6 - Cynllun Safle Arfaethedig

Mae’r llun hwn yn dangos cynllun safle arfaethedig Cyfnewidfa newydd Caerffili i gyd-fynd â Bwrdd 5. Yma, rydym wedi nodi sut mae’r adeilad yn rhan o’r strydlun presennol, a’r mynedfeydd a’r llwybrau allweddol i’r gwahanol ddulliau trafnidiaeth ac oddi yno.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 6

Bwrdd 7 - Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol a chymunedol wedi bod yn flaenllaw yn ein proses ddylunio ers i ni ddechrau gweithio ar y prosiect. Rydym wedi ceisio defnyddio technoleg amgylcheddol i wella gallu’r orsaf i addasu i’r argyfwng hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar fwrdd 7

Bwrdd 8 - Golwg a Theimlad y Gyfnewidfa

Mae'r llun uchaf ar fwrdd 8 yn dangos yr olygfa tuag at bont y platfform.

Mae'r llun gwaelod ar fwrdd 8 yn dangos yr olygfa tuag at Ystrad Mynach, Bargod a Rhymni.

Bwrdd 9 - Golwg a Theimlad y Gyfnewidfa

Mae'r llun uchaf ar fwrdd 9 yn dangos yr olygfa tuag at fynedfa'r de.

Mae'r llun gwaelod ar fwrdd 9 yn dangos yr olygfa tuag at Gaerdydd.

  • Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

    Pwrpas yr holiadur hwn yw ceisio eich adborth chi yn ystod Cam 3 y rhaglen Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar gyfer Cyfnewidfa newydd Caerffili. Dyma fydd eich cyfle olaf chi i wneud sylwadau cyn cyflwyno'r cais cynllunio.

    Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben .

    Rhannu Cyfnewidfa Caerffili – Arolwg ar Facebook Rhannu Cyfnewidfa Caerffili – Arolwg Ar Twitter Rhannu Cyfnewidfa Caerffili – Arolwg Ar LinkedIn E-bost Cyfnewidfa Caerffili – Arolwg dolen