Yn dilyn yr ymgysylltu Cam 2 ynghylch y model gweithredu arfaethedig ar gyfer Canolfan Hamdden Tredegar Newydd, cadarnhawyd bellach y bydd y model gweithredu dewisol yn cael ei weithredu o 1st Ebrill 2026.
Bydd y ganolfan hamdden ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1pm ac 8pm drwy gydol y flwyddyn, ac ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 4pm ac 8pm o 1 Medi i 31 Mawrth pan fo’r galw ar ei uchaf.
Hoffwn ni ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn yn ystod y cyfnod ymgysylltu. Cafodd yr holl adborth ei adolygu’n ofalus ochr yn ochr â data defnydd, gwybodaeth ariannol ac ystyriaethau gweithredol. Tynnodd y cyfnod ymgysylltu sylw at bwysigrwydd y ganolfan hamdden fel gofod cymunedol, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd, lles a hygyrchedd. Er bod y penderfyniad terfynol yn adlewyrchu'r angen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth, mae'r adborth a ddaeth i law wedi llywio'r dull o weithredu a monitro parhaus gweithrediad y ganolfan.
Mae'r adroddiad ymgysylltu llawn ar gael isod ac mae'n darparu crynodeb manwl o'r ymatebion a ddaeth i law a sut y cawson nhw eu hystyried fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.
Mae’r sesiwn ymgysylltu heno yng Nghanolfan Hamdden Tredegar Newydd wedi'i chanslo oherwydd tywydd garw a llifogydd yn yr ardal gyfagos.
Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Dyddiad newydd: Dydd llun 15 Rhagfyr 5pm i 8pm
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhannu model gweithredu newydd arfaethedig ar gyfer Canolfan Hamdden Tredegar Newydd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet yn gynharach eleni ac adolygiad manwl o adborth o ymgysylltiad blaenorol â defnyddwyr, clybiau a'r gymuned leol.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Nod y model amgen yw cydbwyso mynediad cymunedol â'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r gwasanaeth, ac mae'n adlewyrchu patrymau defnyddio drwy gydol y flwyddyn. O dan y cynnig, byddai'r ganolfan hamdden yn agor:
Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1pm ac 8pm drwy gydol y flwyddyn
Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 4pm ac 8pm yn ystod misoedd y gaeaf pan fo'r galw am weithgarwch clybiau a chymunedol ar ei uchaf
Ffyrdd o fynegi eich barn
Er mwyn cynorthwyo'r cam nesaf o ymgysylltu, bydd y Cyngor yn cynnal dwy sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Hamdden Tredegar Newydd. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer defnyddwyr presennol i weld y cynnig, gofyn cwestiynau a rhannu unrhyw adborth ymarferol terfynol. Bydd croeso i randdeiliaid lleol hefyd gyfrannu.
Bydd y sesiynau canlynol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Tredegar Newydd:
- Sesiwn y bore: Dydd Iau 4 Rhagfyr 10:30am i 1:30pm
Sesiwn y prynhawn: Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 5pm i 8pm- Sesiwn y prynhawn: Dydd llun 15 Rhagfyr 5pm i 8pm
Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu hychwanegu cyn i'r datganiad gael ei gyhoeddi.
Canlyniadau disgwyliedig
Ar ôl y sesiynau galw heibio, bydd y Cyngor yn adolygu'r holl adborth cyn cadarnhau trefniadau gweithredu terfynol.
Mae'r gwaith hwn yn ategu uchelgais ehangach Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol y Cyngor, sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd i digolion cadw’n egnïol, yn iach ac yn gysylltiedig yn eu cymunedau.