Ymgynghoriad y Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Ddrafft
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Pam fod angen newid?
Mae Caerffili, fel pob cyngor yng Nghymru, yn gweithio tuag at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘y dyheadau cyffredinol o gael sero gwastraff’ erbyn 2050. Gyda hynny, mae targedau ailgylchu heriol i gynghorau.
Y targed presennol y mae'n rhaid i gynghorau ei gyrraedd yw 64%, gan gynyddu i darged ailgylchu o 70%. Ar hyn o bryd, mae perfformiad ailgylchu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 59%, sef ymhell islaw'r targed wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyn yn golygu bod y Cyngor mewn perygl gwirioneddol o orfod talu dirwyon sylweddol (tua £200,000 y pwynt canran yn is na'r targed) am beidio â chyrraedd y targedau perfformiad.
Ar hyn o bryd, yng Nghaerffili:
- Rydyn ni’n meddu ar y lefel uchaf o wastraff gweddilliol (sbwriel) fesul person yng Nghymru.
- Mae bron i hanner y cynnwys yn ein biniau gwastraff gweddilliol (sbwriel) yn cynnwys deunydd sy'n gallu cael ei ailgylchu.
Yn syml iawn, nid yw gwneud dim yn opsiwn.
Mae’r Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu ddrafft wedi’i datblygu i amlinellu sut mae'r Cyngor, gan gydweithio â'i drigolion, yn gallu cyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% a gweithio tuag at ddim gwastraff erbyn 2050.
Y nod cyffredinol yw lleihau cyfanswm y gwastraff gweddilliol sy'n cael ei gasglu drwy annog pobl i ailgylchu rhagor o'u gwastraff. Yn y pen draw, bydd hyn yn caniatáu i ni weithio tuag at Economi Gylchol,
lleihau ôl troed carbon a dod yn fwy effeithlon o ran adnoddau.
Mae hyn mor bwysig i ni ac mor bwysig i chi a chenedlaethau’r dyfodol, felly, byddem ni'n gwerthfawrogi’n fawr pe gallech chi roi ychydig o amser i gynnig eich barn chi i ni ar y cynigion hyn – gan mai dim ond drwy gydweithio y gallwn ni gyrraedd y targedau hyn.
Mae’n amlwg na allwn ni wneud y newidiadau sylweddol gofynnol ar ein pen ein hunain a bydd ymdrech ar y cyd gan drigolion, y gweithlu a’r gymuned ehangach yn hanfodol i leihau’r defnydd o adnoddau yng Nghaerffili a gwella eu rheoli. Fel corff cyhoeddus, byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda’n cymunedau i ddiogelu effaith hirdymor ein penderfyniadau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf yr Amgylchedd (2021).
Ffyrdd o fynegi eich barn chi
Mae copi papur o'r arolwg yn cael ei anfon i bob cartref trwy Newsline.
Gallwch chi hefyd gwblhau'r arolwg ar-lein.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.
Galwch i mewn am sgwrs yn un o’r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:
- Llyfrgell Aberbargod, Dydd Mawrth 27 Chwefror 4.00pm-6.00pm
- Llyfrgell Rhisga, Dydd Mercher 28 Chwefror 3.00pm-5.00pm
- Llyfrgell Llanbradach, Dydd Gwener 1 Mawrth 10.30am-12.30pm
- Llyfrgell Nelson, Dydd Llun 4 Mawrth 10.00am-12.00pm
- Tŷ Penallta, Dydd Mercher 6 Mawrth 12.00pm–2.00pm
- Llyfrgell Abercarn, Dydd Mercher 6 Mawrth 4.00pm-6.00pm
- Llyfrgell Bargod, Dydd Mawrth 12 Mawrth 4.30pm–6.30pm
- Tesco, Rhisga, Dydd Mercher 13 Mawrth 5.00pm-7.00pm
- Llyfrgell Trecelyn, Dydd Iau 14 Mawrth 10.00am-12.00pm
- Llyfrgell Caerffili, Dydd Sadwrn 16 Mawrth 10.00am-12.00pm
- Llyfrgell Abertridwr, Dydd Llun 18 Mawrth 10.00am-12.00pm
- Llyfrgell Oakdale, Dydd Mercher 20 Mawrth 2.00pm-4.00pm
- Llyfrgell Ystrad Mynach, Dydd Iau 21 Mawrth 10.00am-12.00pm
- Morrisons, Bargod, Dydd Iau 11 Ebrill 11.00am-1.00pm
- Llyfrgell Bedwas, Dydd Sadwrn 13 Ebrill 10.00am-12.00pm
- Tesco, Ystrad Mynach, Dydd Llun 15 Ebrill 12.00pm–2.00pm
- Llyfrgell Coed Duon, Dydd Mawrth 16 Ebrill 10.00am-12.00pm
- Morrisons, Caerffili, Dydd Mercher 17 Ebrill 2.00pm-4.00pm
- Neuadd Bentref Machen, Dydd Iau 18 Ebril 4.00pm-6.00pm
- Llyfrgell Rhymni, Dydd Llun 22 Ebrill 10.00am-12.00pm
- Llyfrgell Tredegar, Newydd Dydd Mercher 24 Ebrill 10.30am-12.30pm
Mynychwch sesiwn ar-lein a chael sgwrs â’r tîm yn un o’r canlynol:
- Dydd Iau 7 Mawrth 1.00pm-3.00pm
- Dydd Mawrth 19 Mawrth 4.00pm-6.00pm
- Dydd Mercher 10 Ebrill 10.00am-12.00pm
- Dydd Mawrth 23 Ebrill 4.00pm–6.00pm
I fynd i un o'r sesiynau hyn, anfonwch e-bost at YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gan nodi'r dyddiad sydd orau gennych chi.
Ymholiadau
Mae gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864380.
Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau
Dychwelwch eich arolwg chi erbyn 29 Ebrill 2024 fel y gallwn ni sicrhau bod eich ymatebion yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad i'w hystyried gan y
Cyd-bwyllgor Craffu - Dydd Llun, 8fed Gorffennaf, 2024 5.00 pm
Cabinet