Rhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol ar FacebookRhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol Ar TwitterRhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol Ar LinkedInE-bost Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol dolen
Consultation has concluded
Yng Ngham 1 ein rhaglen Ymgysylltu â’r Gymuned (map gwres ar-lein a holiadur), cawsom 198 o sylwadau ar fap yr orsaf, a 408 o ymatebion unigol i’n holiadur.
O’r ymatebion hyn, a thrwy ein hastudiaethau dylunio cychwynnol, fe wnaethom nodi 4 problem allweddol yn yr orsaf bresennol y byddai angen i unrhyw ddyluniad newydd fynd i’r afael â nhw.
Mynedfa’r De-orllewin
Nid oes mynedfa glir o’r de orllewin;
Mae’r llwybr i lawr i lefel y platfform yn serth ac nid yw’n hygyrch i bawb;
Mae’r trefniant ramp a phont droed yn golygu bod rhaid i bobl sy’n defnyddio Platfformau 1 a 2 a’r bysiau newid lefel 3 gwaith;
Gall ymwelwyr â’r dref fynd ar goll yn hawdd oherwydd nad yw’r llwybr gadael yn amlwg yn rhan o’r gyfnewidfa.
Yr Orsaf Fysiau
Mae’r ardal aros am fysiau yn gul iawn ac yn agored i gerbydau a llygredd.
Mae lleoliad adeilad y platfform yn atal gwelededd a symud yn haws rhwng trenau a bysiau.
Mae’r mannau aros yn agored iawn i wynt a glaw ac nid ydynt yn gyfforddus.
Yr Adeiladau a’r Pontydd Presennol
Mae’r ffordd a’r pontydd yn colli strwythur oherwydd cyrydiad a bydd angen eu cryfhau neu eu newid o fewn yr 20 mlynedd nesaf;
Mae’r ddwy bont yn rhannu trawst strwythurol cyffredin, sy’n golygu byddai amnewid y naill bont neu’r llall yn y dyfodol yn heriol ac yn amharol;
Yr hen adeilad swyddfa docynnau yw’r unig leoliad ar y safle sydd i’w weld o’r stryd fawr ac mae’n allweddol i amcan y prosiect o greu tirnod a phorth newydd i Gaerffili;
Nid yw’r hen adeilad swyddfa docynnau yn bodloni’r uchelgeisiau cynaliadwyedd ar gyfer cyfnewidfa newydd.
Y Brif Fynedfa
Mae blaengwrt yr orsaf bresennol yn blaenoriaethu cerbydau ac yn cynnwys llawer o rwystrau i bobl ei ddefnyddio;
Nid oes modd gweld mynedfa’r orsaf o’r stryd fawr, ac nid yw’n ddigon clir hyd yn oed wrth gyrraedd y safle;
Nid oes gan yr adeiladau a’r canopïau hunaniaeth gydlynol sy’n adlewyrchu Caerffili ac yn dangos y ffordd i’r dref a'r canol hanesyddol;
Mae’r golau rhwng y tir cyhoeddus a mynedfa’r orsaf yn wael.
Ar waelod y ddelwedd, gallwch chi weld yr amserlen ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid.