Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi

Rhannu Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi ar Facebook Rhannu Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi Ar Twitter Rhannu Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi Ar LinkedIn E-bost Bwrdd 3 - Cam 2: Fe ddywedoch chi dolen

Consultation has concluded

Yng Ngham 2 ein Hymgysylltu â’r Gymuned (rhannu ein syniadau a’n holiadur ar-lein), cawsom 220 o sylwadau ar ein cynigion ar draws saith thema a maes mewn perthynas â safle’r gyfnewidfa.

Cyflwynir crynodeb o’r adborth hwn yma, ac rydym wedi defnyddio hwn i lywio datblygiad pellach ein dyluniadau.

Porth newydd i Gaerffili

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer mynedfa newydd yr orsaf

Ydych chi’n cytuno â rhoi’r brif fynedfa yma?

Ddim yn gwybod: 8%

Na: 12%

Ydw: 80%

‘Yn yr un modd â’r llyfrgell newydd, dylai’r dyluniad gynnwys gwaith cerrig tebyg i gastell gymaint ag y bo modd mewn dyluniad modern i gyflwyno hanes a stori unigryw ein tref.’

‘A ellir gwneud CBSC, TrC a’ch Ymgynghorydd Dylunio yn ymwybodol o’r cynllun o’r enw Changing Places a’r angen i wella cyfleusterau toiledau cyhoeddus traddodiadol fel eu bod yn gwbl hygyrch i bawb.’

‘Sicrhau bod mannau diogel i gerddwyr oddi wrth feicwyr. Posibilrwydd o wrthdaro ar groesfan a rennir ac o amgylch mannau parcio beiciau.’

‘Mae pobl o bob cwr o’r byd yn dod i Gaerffili i weld y dreftadaeth a byddwn yn rhoi adeilad bocslyd iddynt y gellid ei weld yn unrhyw le heb unrhyw nodweddion arbennig.’

‘Gallai’r ffaith bod cyfleuster cwbl hygyrch o ansawdd uchel ar gael yng Nghanol Tref Caerffili fod yn fuddiol.’

‘Yn aml, gorsaf drenau/bws yw’r peth cyntaf y mae ymwelydd yn ei weld wrth gyrraedd mewn lle newydd.’

‘Beth am fannau gollwng a chodi teithwyr?’

Y Ddynesfa Dwyreiniol

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer y rhan hon o’r gyfnewidfa?

A fyddech chi’n debygol o ddefnyddio’r llwybrau beicio hyn i’r gyfnewidfa?

Dydw i ddim yn beicio: 16%

Na: 29%

Ddim yn siŵr: 19%

Byddwn: 36%

‘Mae’r ardal fysiau yn wag yn aml – dydy bysiau ddim yn aros yn hir. Mae’r ffordd y mae’r bysiau’n aros yma’n golygu bod yna lawer o fygdarth, larymau bagio a llawer iawn o ardal sy'n wastraff.’

‘Yr hyn sy’n bwysig yw digon o le parcio arhosiad hir am ddim. Mae methiant i fynd i’r afael â hyn yn atal defnyddwyr ceir rhag defnyddio’r system rheilffyrdd a bysiau, a gall achosi problem i mi oherwydd bod ceir yn cael eu parcio yn fy stryd drwy’r dydd.’

‘Mae angen i chi ddelio â mater llygredd.’

‘Peidiwch â gwneud y llwybrau mynediad i feiciau yn llwybr hirach i’w cadw ar y ‘ffyrdd tawelach’. Mae beicio’n gofyn am ymdrech, felly mae angen iddo fod y llwybr mwyaf uniongyrchol neu byddwch yn atal pobl rhag beicio’

‘Os nad oes pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle hwn ar hyn o bryd, a ddylid eu darparu fel rhan o’r gwelliannau i’r Gyfnewidfa?’

Cyfnewidfa Ddiymdrech

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer y cyntedd bysiau a’r mannau aros?

Pa rai o’r canlynol fyddech chi’n fwy tebygol o’u defnyddio i aros am eich trên/bws?

Dim un: 6%

Ardaloedd Agored: 50%

Y tu allan i’r orsaf: 39%

Ystafelloedd aros: 5%

‘Rydw i’n defnyddio bysiau’n aml mewn ardaloedd eraill, ond yn anaml iawn yng Nghaerffili gan fy mod i’n ei chael hi mor anodd ei defnyddio.’

‘Dydy’r gyfnewidfa bresennol ddim yn rhy ddrwg am eich gwarchod rhag glaw, ond mae’r oerfel yn sicr yn cael ei deimlo pan fyddwch chi’n aros ac mae’n gallu mynd mor iasoer ar adegau. Felly, yn bendant, mae angen gwell gwarchodaeth yn hynny o beth.

‘Mae ysmygu ac anweddu yn broblem ENFAWR yng ngorsaf Caerffili.

‘Hefyd angen seddi wrth ymyl arosfannau bysiau unigol gan na ellir gweld bysiau o’r man aros (ac maen nhw’n tueddu i newid yr arosfannau!)’

‘Rwy’n hoffi sut mae’r dyluniad hwn yn mynd i’r afael â’r materion trosglwyddo (yn gorfforol ac yn weledol) ac mae hefyd yn delio â materion ansawdd aer wrth aros am fws.’

Mynedfa Newydd y De

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer Mynedfa Newydd y De

Pe byddech chi’n beicio, fyddech chi’n defnyddio’r lle diogel i barcio beiciau yma?

Dydw i ddim yn beicio: 10%

Na: 5%

Ddim yn siŵr: 35%

Byddwn: 50%

‘Byddai hyn yn ateb gwych gan fod llawer o drigolion yn dod i'r orsaf o’r ochr yma.’

‘Rwy’n poeni braidd am gael gwared â’r rampiau a gosod lifftiau ar gyfer hygyrchedd, oherwydd mae amlder lifftiau’n torri mewn gorsafoedd rheilffordd yn gwneud hyn yn heriol iawn i unigolion sy’n methu â defnyddio grisiau.’

‘Rwy’n credu bod angen llwybr beicio ar hyd Ffordd St Martin’s sy’n gallu ymuno â’r fynedfa ddeheuol.’

‘Byddai’n ddefnyddiol iawn gweld pwynt i dwristiaid ar y platfform hwn neu’n agos ato. Mae’n gymaint o gyfle a gollwyd ar hyn o bryd.’

‘Wrth i mi feicio i’r gwaith ac oddi yno, mae’n wych cael lle diogel i barcio beiciau.’

Cyrchfan Newydd

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer yr Amwynder Cyhoeddus newydd?

Beth yw eich barn chi am y llwyfan gwylio?

Cyffrous:22%

Bodlon:30%

Ddim yn gwybod: 19%

Anfodlon: 7%

Siomedig: 22%

‘Yn anffodus, yn ogystal â’r castell, byddai pobl yn gweld Heol Caerdydd a’r holl siopau gyda phaent yn plicio.’

‘Rwy’n teimlo eich bod yn optimistaidd ynghylch beth y gellir ei gynnwys mewn ardal fach. Rhowch ddigon o le ar gyfer yr elfennau pwysig, a pheidiwch â chyfaddawdu drwy geisio bod yn bopeth i bawb.’

‘Byddwn wrth fy modd yn gweld byrddau stori a delweddau hanesyddol o’r dref yn nyluniad y gyfnewidfa drwyddo draw i greu teimlad unigryw i Gaerffili.’

‘Byddai caffi sy’n gwerthu cynnyrch lleol (e.e. caws Caerffili) hefyd yn gwella’r profiad i dwristiaid a byddai’n lle braf i ddefnyddwyr rheolaidd stopio/aros ynddo.’

‘Mae’r golygfeydd yn gyfyngedig iawn, felly nid yw’n werth hynny, gwell eu defnyddio ar gyfer bwyta/ yfed y tu allan ar gyfer caffi/ tafarn/bwyty.’

Y Gyfnewidfa a’r Amgylchedd

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am y cynigion ar gyfer dylunio cynaliadwy yn y gyfnewidfa?

‘Cynyddu coridorau gwyrdd gan ddatblygu llwybrau diogel i’r orsaf ac oddi yno ar bob pwynt o’r cwmpawd, sicrhau storfa feiciau ddiogel sy’n cael ei monitro, sicrhau cyfleusterau newid, a gorsaf cynnal a chadw beiciau cyffredinol’.

‘Rwy’n gallu gweld 8 coeden o fy ffenest flaen, maen nhw’n nesáu at aeddfedrwydd, peidiwch â’u torri i lawr.’

‘Mae cael gwefru trydan ar gyfer pob cludiant: beiciau, bysiau a thacsis yn gam mawr ymlaen. Bydd gwefru beics yn hybu iechyd a lles pawb.’

‘Mae’r cyfan yn swnio’n eco gyfeillgar iawn ac yn gynaliadwy – gwych! Ond a fydd yn gweithio?’

‘Cynyddu rhwydweithiau teithio llesol a theithio llesol yng Nghaerffili, lleihau’r defnydd o garbon yng Nghaerffili, lleihau allyriadau yn y dref ac ardaloedd sy’n dioddef yn benodol, fel White Street, lleihau tagfeydd traffig yn y dref.’

Y Pontydd Presennol a’r Hen Adeilad Swyddfa Docynnau

Sentiment Cyhoeddus

Sut ydych chi’n teimlo am newid yr adeiladau a’r pontydd?

Mae’n bwysicach creu cyfleuster modern newydd i bara ymhell i’r dyfodol: 11%

Gwerthfawrogi’r adeiladau ond deall yr angen iddynt gael eu newid: 43%

Does gen i ddim barn gref y naill ffordd na’r llall: 3%

Maent yn rhan o hanes Caerffili a dylid eu cadw: 43%

‘Ar ôl teimlo bod yr hanes yn hollbwysig yn y lle cyntaf, ar ôl archwilio’r cynllun cyfan ymhellach, mae manteision yr adeilad newydd gwarantu cael gwared â'r hen adeilad.’

‘Teimlo’n gryf y dylid eu cadw. Allech chi ailadeiladu’r swyddfa docynnau ar ôl i’r bont newydd gael ei gosod?’

‘Er fy mod i’n gallu gweld bod yr adeilad yn hen, mae gen i ofn nad ydw i’n ei weld fel strwythur pwysig o unrhyw werth hanesyddol.’

‘Mae’n bwysig cael adeilad a phont ddiogel. Nid yw’n ymddangos bod terfynau pwysau a phwyslathau rhydlyd yn ddiogel iawn.’

‘Rwy’n cytuno nad yw’n bodloni safonau adeiladu modern, ond mae’n rhaid ymdrechu i gynnal treftadaeth Caerffili, ac mae arddull bensaernïol yr orsaf yn enghraifft gref ohono.’

Yn ôl i'r hafan