Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol

Rhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol ar Facebook Rhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol Ar Twitter Rhannu Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol Ar LinkedIn E-bost Bwrdd 2 - Yr Orsaf Bresennol dolen

Consultation has concluded

Yng Ngham 1 ein rhaglen Ymgysylltu â’r Gymuned (map gwres ar-lein a holiadur), cawsom 198 o sylwadau ar fap yr orsaf, a 408 o ymatebion unigol i’n holiadur.

O’r ymatebion hyn, a thrwy ein hastudiaethau dylunio cychwynnol, fe wnaethom nodi 4 problem allweddol yn yr orsaf bresennol y byddai angen i unrhyw ddyluniad newydd fynd i’r afael â nhw.

Mynedfa’r De-orllewin

  • Nid oes mynedfa glir o’r de orllewin;
  • Mae’r llwybr i lawr i lefel y platfform yn serth ac nid yw’n hygyrch i bawb;
  • Mae’r trefniant ramp a phont droed yn golygu bod rhaid i bobl sy’n defnyddio Platfformau 1 a 2 a’r bysiau newid lefel 3 gwaith;

Gall ymwelwyr â’r dref fynd ar goll yn hawdd oherwydd nad yw’r llwybr gadael yn amlwg yn rhan o’r gyfnewidfa.

Yr Orsaf Fysiau

  • Mae’r ardal aros am fysiau yn gul iawn ac yn agored i gerbydau a llygredd.
  • Mae lleoliad adeilad y platfform yn atal gwelededd a symud yn haws rhwng trenau a bysiau.

Mae’r mannau aros yn agored iawn i wynt a glaw ac nid ydynt yn gyfforddus.

Yr Adeiladau a’r Pontydd Presennol

  • Mae’r ffordd a’r pontydd yn colli strwythur oherwydd cyrydiad a bydd angen eu cryfhau neu eu newid o fewn yr 20 mlynedd nesaf;
  • Mae’r ddwy bont yn rhannu trawst strwythurol cyffredin, sy’n golygu byddai amnewid y naill bont neu’r llall yn y dyfodol yn heriol ac yn amharol;
  • Yr hen adeilad swyddfa docynnau yw’r unig leoliad ar y safle sydd i’w weld o’r stryd fawr ac mae’n allweddol i amcan y prosiect o greu tirnod a phorth newydd i Gaerffili;
  • Nid yw’r hen adeilad swyddfa docynnau yn bodloni’r uchelgeisiau cynaliadwyedd ar gyfer cyfnewidfa newydd.

Y Brif Fynedfa

  • Mae blaengwrt yr orsaf bresennol yn blaenoriaethu cerbydau ac yn cynnwys llawer o rwystrau i bobl ei ddefnyddio;
  • Nid oes modd gweld mynedfa’r orsaf o’r stryd fawr, ac nid yw’n ddigon clir hyd yn oed wrth gyrraedd y safle;
  • Nid oes gan yr adeiladau a’r canopïau hunaniaeth gydlynol sy’n adlewyrchu Caerffili ac yn dangos y ffordd i’r dref a'r canol hanesyddol;
  • Mae’r golau rhwng y tir cyhoeddus a mynedfa’r orsaf yn wael.

Ar waelod y ddelwedd, gallwch chi weld yr amserlen ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid.

Yn ôl i'r hafan