Bwrdd 4 - Cam 2: Fe wnaethom ni
Consultation has concluded
O Gam 2 ein Hymgysylltu â’r Gymuned, fe wnaethom nodi 5 thema gyffredin rydym wedi ceisio mynd i’r afael â nhw wrth i ni ddatblygu ein dyluniadau.
Yma rydym yn egluro sut rydym wedi addasu ein cynigion o’r adborth a gafwyd, a hefyd lle rydym wedi parhau â’n cynigion gwreiddiol, gan nodi’r rhesymau dros hynny.
Yr Adeiladau a’r Pontydd Presennol
Rydyn ni’n deall cryfder y teimlad o ran newid hen adeilad y swyddfa docynnau. Er bod llawer yn deall ac yn cefnogi’r achos dros eu disodli.
Mae angen newid y ffordd a’r pontydd o fewn yr 20 mlynedd nesaf.
Os cânt eu hymgorffori yn y dyluniad newydd yn awr, bydd oedran a chyflwr y strwythurau hyn yn parhau i ddirywio ac bydd angen rhoi sylw iddynt o hyd yn y dyfodol.
Mae prosiect Cyfnewidfa Caerffili yn gyfle i ddisodli’r strwythurau hyn, yn addas i’r diben am y 100 mlynedd nesaf.
Bydd newid y bont ffordd am adeiladwaith modern yn cael gwared ar y terfyn pwysau ac yn galluogi bysiau i wasanaethu de a gorllewin y dref.
Mae lledu’r bont ffordd yn creu lle ar gyfer lonydd beiciau a phalmant ehangach i wella cysylltiadau teithio llesol.
Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yr orsaf yn aros ar blatfformau 1 a 2, ac yn defnyddio’r lefel is i gyrraedd y bysiau. Felly, y lefel hon yw’r lle gorau ar gyfer toiledau a’r swyddfa docynnau, nid lefel y bont.
Wrth ystyried y pryderon ynghylch colli treftadaeth, edrychodd y tîm dylunio ar gadw’r adeilad platfform.
Fodd bynnag, mae ei nodweddion cul a’i wahaniaeth lefel yn ei gwneud yn ofod cyfyngedig iawn.
Roedd ein cynigion ar gyfer “Cyfnewidfa Ddiymdrech” gyda chylchrediad clir, hygyrch a hwylus rhwng y bysiau a’r trenau, hefyd yn rhai o’r rhai mwyaf poblogaidd.
Bydd y bont droed sydd ar gael rhwng platfformau 1 a 2 yn unig yn cael ei disodli gan bont dan do o fewn amlen yr orsaf ac a fydd â mynediad uniongyrchol o Heol Caerdydd.
Hygyrchedd a Diogelwch
Bydd yr holl lwybrau drwy’r orsaf yn gwbl hygyrch. Mae defnyddio rampiau sy’n codi’n raddol yn y cyntedd bysiau yn caniatáu mynediad gwastad ym mhob bae bysiau yn ogystal â thaith heb risiau rhwng platfformau a'r cyntedd bysiau.
Cododd rhai ymatebwyr y cwestiwn ynghylch codi a gollwng.
Bydd dau fan codi a gollwng cwbl hygyrch wrth y brif fynedfa i greu llwybr haws i’r orsaf i gwsmeriaid sydd â symudedd cyfyngedig.
Bydd y gyfnewidfa newydd yn darparu toiledau i fenywod a dynion, toiled sy’n niwtral o ran rhywedd, toiled hygyrch, ystafell newid babanod, ac ystafell llefydd newid yr roedd rhai ymatebwyr yn awyddus i gael eu cynnwys. Mae’r dyluniad yn golygu bod modd cau’r cyfleusterau hyn mewn adrannau er mwyn ymateb i lai o alw gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Bydd lifftiau drwodd ar y ddau blatfform hefyd er mwyn darparu llwybr cwbl hygyrch ar draws y rheilffordd.
Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y byddai’r lifft yn torri. Rydym wedi osgoi defnyddio lifftiau hydrolig sy’n tueddu i gael problemau cynnal a chadw amlach gan ddewis lifftiau tyniant mwy dibynadwy.
Nid yw’n opsiwn i gadw’r ramp ar blatfform 3 fel rhan o’n cynigion gan ei fod yn serth iawn ac nid yw’n hygyrch. Mae ei ddisodli â lifftiau hefyd yn creu lle ar gyfer creu palmant ar hyd Rhodfa Brenin Edward y gellir ei ddefnyddio i ddarparu llwybr mwy hamddenol rhwng Platfform 3 a lefel y Bont.
Perthnasedd, Treftadaeth a Chymeriad
Cyfeiriwyd at y llyfrgell fel enghraifft boblogaidd o ddefnyddio deunyddiau cerrig naturiol yn unol â’r cyd-destun lleol.
Bydd y gyfnewidfa newydd yn defnyddio Carreg Las Pennant fel deunydd allweddol, a lle bo hynny’n bosibl bydd yn cael ei hailgylchu o’r safle presennol.
Mae’r to pili pala newydd yn creu uchder sy’n cyfeirio at y prif fynedfeydd, sydd hefyd yn ymateb i dirnodau lleol, gan adlewyrchu meindwr Eglwys St Martin ac yn rhoi golygfeydd at Gastell Caerffili.
Er bod y castell canoloesol yn ganolbwynt i ganol Tref Caerffili, cyfeiriwyd at dreftadaeth ddiwydiannol y fwrdeistref ehangach drwy ddefnyddio elfennau dur agored wedi’u peintio’n gyda chysylltiadau wedi’u bolltio’n cyfeirio at adeiladau glofaol Cwm Rhymni.
Cawsom ein hysbrydoli hefyd gan waith celf Onya McCausland a greodd liw paent unigryw – Six Bells Red – o ddyddodion glo lleol ac rydym yn gobeithio cyfeirio at y palet lliw hwn yn ein dyluniadau.
Rydyn ni’n bwriadu gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ymgorffori celf gyhoeddus yn adeiladau yr orsaf a thir y cyhoedd.
Teithio Llesol
Codwyd rhai pwyntiau gwych ynghylch mynd i’r afael ag anghenion cerdded a beicio a diogelwch ar y ffyrdd yn gyffredinol.
Rhaid i’r gyfnewidfa newydd ganiatáu ar gyfer datblygu’r rhwydwaith teithio llesol yn y dyfodol, yn ogystal â galluogi cyfnewid rhwng beiciau a dulliau trafnidiaeth eraill.
Yn dilyn adborth am wrthdaro â cherddwyr, mae’r Ganolfan Teithio Llesol, sydd â chyfleusterau diogel ar gyfer parcio beiciau a loceri, bellach ar lefel y bont.
Mae hyn yn caniatáu mwy o ddewisiadau ar gyfer teithiau beicio gan ei fod wedi’i gysylltu â lonydd beiciau dau gyfeiriad ar Heol Caerdydd.
Mae’r cysylltiadau rhwng trenau a beiciau yn fwy cyfleus gyda mynediad cyfartal i’r ddau blatfform.
Rydym wedi parhau i ddarparu coridor teithio llesol o’r dwyrain i’r gorllewin. Ar hyn o bryd mae cyfyngiadau o ran gofod ar hyd Rhes yr Orsaf yn ei gwneud yn amhosibl gwasanaethu beicwyr yn ddiogel sy’n teithio o’r gorllewin i’r dwyrain a bydd hyn yn rhan allweddol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan dimau dylunio WelTAG a Chaerffili 2035 fel rhan o’r strategaeth teithio llesol ar draws y dref.
Er mwyn galluogi cysylltiadau yn y dyfodol, mae llwybr beicio gwrthlif ar wahân wedi cael ei ddarparu o gyffordd Heol Caerdydd i’r brif fynedfa.
Bysiau, Tacsis a Pharcio
Ar ôl ymgysylltu â CBSC a’r diwydiant tacsis, darperir pum lle tacsi mewn un safle pwrpasol wrth ymyl y prif lwybr i’r orsaf ac i ffwrdd o eiddo preswyl i wasanaethu’r Gyfnewidfa
Bydd yr ardal bysiau yn cael ei huwchraddio i ddarparu 12 arhosfa bws, 4 lle disgwyl, gyda mynediad mwy diogel a lle i symud yn fwy diogel.
Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at faterion ysmygu, llygredd a mannau aros addas.
Mae'r cyntedd bysiau yn ofod mewnol wedi’i awyru’n naturiol ac wedi’i warchod rhag y tywydd.
Nid chaniateir ysmygu yn yr ystafelloedd aros sydd wedi’u tymheru ac maent wedi’u gwydro’n llwyr i wneud iddynt deimlo’n ddiogel. Rydym wedi symud y rhain i fod yn fwy canolog i bob arhosfa bws.
Rydyn ni hefyd wedi darparu seddi ym mhob arhosfa er mwyn i bobl allu aros yn nes at eu bws.
Er mwyn darparu mynedfa ddiogel a hygyrch, a mynd i’r afael â’r gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr, mae angen symud y maes parcio arhosiad byr presennol. Oherwydd cyfyngiadau’r safle, y lle gorau ar gyfer hyn yw i’r dwyrain.
Bydd yn darparu 12 lle, gyda phedwar ohonynt yn gwbl hygyrch.
Cododd rhai ymatebwyr y cwestiwn ynghylch beth fydd yn digwydd i faes parcio arhosiad hir presennol CBSC.
Yn ogystal â’r maes parcio arhosiad byr, mae angen yr ardal hon hefyd er mwyn galluogi’r coridor teithio llesol (rhan o Gynllun Creu Lleoedd 2019 sydd wedi cael ei fabwysiadu), ac er mwyn galluogi llwybrau bysiau o’r dwyrain yn y dyfodol.
Cynigir cadw’r maes parcio a pharcio a theithio presennol er mwyn parhau i ddiwallu anghenion parcio’r gyfnewidfa.