Bwrdd 7 - Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Consultation has concluded
Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol a chymunedol wedi bod yn flaenllaw yn ein proses ddylunio ers i ni ddechrau gweithio ar y prosiect. Rydym wedi ceisio defnyddio technoleg amgylcheddol i wella gallu’r orsaf i addasu i’r argyfwng hinsawdd.
Rydym wedi ceisio defnyddio technoleg amgylcheddol i wella gallu’r orsaf i addasu i’r argyfwng hinsawdd.
Mae toeau blodau gwyllt/wedi’u hadu ar adeiladau’r orsaf a chanopïau’r to yn lleihau enillion gwres solar, yn gwella bioamrywiaeth ac yn lleihau dŵr glaw, yn arafu ei lif ac yn lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith carthffosydd lleol.
Cynhyrchu Ynni
Mae paneli solar yn manteisio ar ogwydd deheuol y safle ac yn cynhyrchu pŵer ar gyfer golau mewnol, gwefru ar gyfer beiciau trydan yn yr hyb teithio llesol, ac ar adegau lle mae’r galw’n isel, gall ddarparu ynni ategol yn ôl i rwydwaith pŵer Cymru.
Awyru Naturiol
Mae gogwydd gorllewinol y prifwyntoedd yn caniatáu agoriadau wedi’u rheoli ar lefel uchel i ganiatáu aer ffres i mewn i’r adeilad gan ddileu’r angen am gyntedd sydd wedi’i awyru’n fecanyddol.
Mae’r defnydd o wydr yn cysgodi’r mannau mewnol rhag yr elfennau gan ganiatáu cymaint o olau naturiol â phosibl i’r gofod er mwyn lleihau’r angen am oleuadau artiffisial yn ystod y dydd.
Systemau Draenio Cynaliadwy
Mae SuDS (Systemau Draenio Cynaliadwy) ar ffurf gerddi glaw ac o storfa gellog dan y ddaear, yn helpu i hidlo dŵr ffo wyneb halogedig o’r llain fysiau. Mae palmentydd hydraidd mewn mannau allweddol yn lliniaru pyllau dŵr wyneb wrth fynedfeydd a llwybrau allweddol i gerddwyr.
Coed
Yn dilyn adborth, mae’r cyntedd bysiau wedi cael ei aildrefnu i gadw’r coed Ieubren presennol i’r dwyrain, ac mae tir y cyhoedd i'r gogledd-orllewin wedi cael ei dylunio i gadw pedair o’r coed Ceirios presennol wrth ymyl y safle tacsis. Bwriedir adleoli’r tair arall.
Mae’r maes parcio arhosiad byr dwyreiniol wedi cael ei aildrefnu i gadw’r pedair coeden fedwen aeddfed rhwng Rhes yr Orsaf a’r rheilffordd.
Ansawdd Aer ac Amwynder Cyhoeddus
Mae planhigion teras wedi cael eu hymgorffori rhwng Rhes yr Orsaf a Heol Caerdydd i’r gogledd er mwyn helpu i wella ansawdd yr aer ar adegau lle mae llif y traffig yn uwch.
Gwefru Trydan
Mae gwefru trydan yn cael ei ddarparu mewn dau o’r mannau disgwyl i fysiau i gefnogi’r broses o newid i gerbydau mwy cynaliadwy a datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Cynaeafu Dŵr Glaw
Mae ardal y to pili-pala wedi cael ei dylunio i sianelu dŵr glaw tuag at gwter ganolog lle mae dŵr glaw yn cael ei gasglu a’i storio mewn tanc arbennig o dan y ddaear. Gellir pwmpio’r dŵr hwn i’w ddefnyddio ar gyfer cyfleusterau’r toiled (dŵr toiled) a dyfrhau’r planhigion amgylchynol yn ôl yr angen.
Amwynder Cymunedol
Mae’r teras gwylio wedi cael ei ddisodli gan fan cymunedol / manwerthu ar y lefel uchaf, gyda mynediad at ardal deras fwy eang, sy’n gallu addasu i anghenion y dref a'r gyfnewidfa dros amser.
Cyfleusterau Teithio Llesol
Mae cyfleusterau lles a theithio llesol yn cyfrannu at wella llesiant staff a chwsmeriaid gorsafoedd.
Aerdymheru
Mae pympiau gwresogi ffynhonnell aer yn darparu gwres ac oeri ar gyfer mannau sydd wedi’u aerdymheru drwy’r Gyfnewidfa, gan gynnwys unedau siop newydd.
Strwythurau Adeiladau
Mae heriau o ran gwrthsefyll tân yn ei gwneud yn anodd defnyddio pren fel deunydd strwythurol ar gyfer gorsafoedd. Mae angen dylunio’r adeilad ar gyfer oes o 100 mlynedd, sy’n golygu mai dur yw’r deunydd delfrydol.
Gellir ailgylchu dur yn hawdd yn ogystal â defnyddio dur o ffwrneisi trydan, yn sicrhau bod effaith carbon yr adeiladau newydd mor isel ag sy’n ymarferol.
Mae’r pontydd newydd hefyd wedi cael eu dylunio i leihau’r defnydd o goncrid, a defnyddir y pentanau presennol i’w cynnal.