Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol

Rhannu Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol ar Facebook Rhannu Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol Ar Twitter Rhannu Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol Ar LinkedIn E-bost Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol dolen

Am beth mae'r ymgynghoriad?

Mae'r Cyngor yn cynnig newid y ffordd y mae'n darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili o fis Medi 2026 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu lefel uchel o gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn ôl disgresiwn. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu bod yr holl gludiant prif ffrwd rhwng y cartref a'r ysgol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg, Cymraeg a Ffydd yn cydymffurfio â'r meini prawf pellter statudol perthnasol fel sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'r cynnig yn golygu parhau i ddarparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn ôl disgresiwn i ddysgwyr sy'n byw y tu hwnt i'r meini prawf pellter, sef 2 filltir ar gyfer y rhai o dan oedran ysgol statudol, ar yr amod bod seddi sbâr ar gael yn y cerbyd, a 3 milltir ar gyfer dysgwyr ôl-16.

Ni fyddai'r cynnig hwn yn effeithio ar gymhwysedd o ran cludiant ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n mynychu ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion a dosbarthiadau cymorth dysgu.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr y gwasanaeth a rhanddeiliaid o ran y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol.

Pam rydyn ni'n ystyried y newid hwn?

Ym mis Chwefror eleni, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gyfres o gynigion cyllidebol ar gyfer 2024/25, sy'n seiliedig ar setliad ariannol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Amlinellodd yr adroddiad y gofyniad i arbed £45.213 miliwn ar gyfer y cyfnod dwy flynedd 2025/26 a 2026/27.

Er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch ariannu enfawr hwn, mae rhaglen drawsnewid wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r heriau ariannol sylweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu lefel uchel o gludiant yn ôl disgresiwn, ymhell uwchlaw'r gofynion statudol. Mae'r cynnig yn ceisio ymgynghori ar y posibilrwydd o gael gwared ar yr elfen milltiredd yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth prif ffrwd i ddod ag ef yn unol â meini prawf pellter statudol perthnasol a fyddai'n arwain at arbediad ariannol mawr i'r Awdurdod.

Ar hyn o bryd, mae Caerffili yn un o 3 awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu cludiant uwchlaw'r isafswm statudol. Mae un o’r 3 awdurdod lleol sy’n weddill wedi gwneud y penderfyniad yn ddiweddar i leihau’r ddarpariaeth i leiafswm statudol o fis Medi 2026.

Beth allai hyn ei olygu i mi?

Cynnig o fis Medi 2026 ymlaen:

Yr holl gludiant prif ffrwd rhwng y cartref a'r ysgol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg, Cymraeg a Ffydd yn cydymffurfio â'r meini prawf pellter statudol perthnasol fel sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru.

Sut ydw i'n gwybod a fyddai'r newidiadau arfaethedig i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn effeithio arna i?

Crynodeb o'r newidiadau arfaethedig:

Isafswm statudol Llywodraeth Cymru
Cyngor Caerffili ar hyn o bryd
Arfaethedig (o fis Medi 2026 ymlaen)
Y blynyddoedd cynnar/Meithrin
Dim1.5 milltir * yn dibynnu ar nifer y seddi sbâr yn y cerbyd
2 filltir * yn dibynnu ar nifer y seddi sbâr yn y cerbyd
Cynradd – Derbyn i Flwyddyn 6 (5–11 oed)
2 filltir
1.5 milltir
2 filltir
Uwchradd – Blynyddoedd 7–11 (12–16 oed)
3 milltir
2 filltir
3 milltir
Trydyddol (16–19 oed)
Dim2 filltir
3 milltir

Fel rhan o'r broses ymgynghori, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi mapiau dangosol ar ei wefan yn nodi’r ardaloedd a allai gael eu heffeithio. Mae’r mapiau yma’n cael eu darparu at ddibenion gwybodaeth yn unig ac efallai nad ydyn nhw’n cynnwys pob ardal sy’n cael ei heffeithio. Bydd cymhwysedd unigol yn cael ei gadarnhau os bydd y penderfyniad yn mynd yn ei flaen a bydd rhieni'n cael gwybod yn uniongyrchol unwaith y bydd yr holl gymhwysedd wedi'i gadarnhau. Os and ydych chi’n sicr, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n llenwi'r ymgynghoriad fel pe bai chi’n cael eich effeithio.

Pryd fydd cyfle i fi ddweud fy nweud?

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Llun 16 Medi 2024 i ddydd Llun 28 Hydref 2024.

Sut alla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi ddweud eich dweud.

Gallwch chi gwblhau arolwg byr ar-lein.

Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael fel copi caled o lyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ar gael yn Saesneg a hefyd mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb:

Dydd Llun 23 Medi 2024

Ysgol Gatholig Santes Helen, Caerffili (Neuadd yr ysgol)

3.30pm–5.00pm

Dydd Iau 26th Medi 2024

Ysgol Idris Davies 3-18, Rhymni (Neuadd yr ysgol)

4.00pm–5.30pm

Dydd Iau 3rd Hydref 2024

**Ysgol Gyfun Cwm Rhymni – Campws Gelli-haf (Neuadd yr ysgol)

5.30pm–7.00pm

Dydd Mercher 9th Hydref 2024

Ysgol Uwchradd Islwyn, Oakdale (Neuadd yr ysgol)

5.30pm–7.00pm

Dydd Iau 17th Hydref 2024

Ysgol Gyfun Rhisga (neuadd yr ysgol)

5.00pm–6.30pm

Dydd Mercher 23rd Hydref 2024
Ysgol Sant Cenydd, Caerffili (Neuadd yr ysgol)
5.30pm–7.00pm

Sesiynau galw heibio ar-lein:

Thursday 26th September 20246:00pm-7:30pm
Tuesday 1st October 20246:00pm-7:30pm
Wednesday 16th October 202410:30am-12midday

I fynychu un o'r sesiynau galw heibio ar-lein, anfonwch e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'ch dyddiad dewisol. Wedyn, byddwn ni'n darparu dolen i chi fynychu'r sesiwn ar-lein.

Ymholiadau:

Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864213.

**Noder y bydd y sesiwn galw heibio hon yn un ddwyieithog.

Camau nesaf

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Addysg cyn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn ystod misoedd cynnar 2025.

Diweddaru: 19 Sep 2024, 03:45 PM