Caerffili Gweledigaeth Sero Net 2050 Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Eich Llais yn Bwysig

Rhannu Caerffili Gweledigaeth Sero Net 2050 Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Eich Llais yn Bwysig ar Facebook Rhannu Caerffili Gweledigaeth Sero Net 2050 Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Eich Llais yn Bwysig Ar Twitter Rhannu Caerffili Gweledigaeth Sero Net 2050 Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Eich Llais yn Bwysig Ar LinkedIn E-bost Caerffili Gweledigaeth Sero Net 2050 Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Eich Llais yn Bwysig dolen

Mae newid yn yr hinsawdd yn fater dybryd sy'n effeithio ar ein planed a'n hanwyliaid, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, fel ein plant. Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach i bawb, gan weithio tuag at gydweledigaeth o Fwrdeistref Sirol Caerffili sero net erbyn 2050, ac mae angen eich help chi arnom ni i'w llunio!

Pam Mae Angen Eich Mewnbwn Chi Arnom Ni

Mae allyriadau carbon sero net erbyn 2050 yn nod uchelgeisiol, ond mae’n hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni am ddeall y ffordd orau o gefnogi trigolion a

Mae newid yn yr hinsawdd yn fater dybryd sy'n effeithio ar ein planed a'n hanwyliaid, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, fel ein plant. Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach i bawb, gan weithio tuag at gydweledigaeth o Fwrdeistref Sirol Caerffili sero net erbyn 2050, ac mae angen eich help chi arnom ni i'w llunio!

Pam Mae Angen Eich Mewnbwn Chi Arnom Ni

Mae allyriadau carbon sero net erbyn 2050 yn nod uchelgeisiol, ond mae’n hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni am ddeall y ffordd orau o gefnogi trigolion a busnesau ar y daith hon, gan sicrhau pontio cyfiawn i bawb. Rydyn ni eisoes wedi clywed eich barn, ond nid yw hon yn daith gyflawn.

Diolch am eich mewnbwn ar ein Strategaeth Sero Net 2050

Hoffen ni ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad diweddar ar Strategaeth Sero Net 2050. Trwy gyfweliadau lled-strwythuredig a digwyddiad Grŵp Ffocws ar 19 Medi, rhoddodd trigolion a busnesau lleol fewnwelediadau ac adborth amhrisiadwy.

Camau nesaf

Mae ein tîm yn adolygu'r holl ymatebion i lunio'r strategaeth derfynol, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion ein cymuned. Bydd y strategaeth yn cynnwys Ynni, Teithio, Adeiladau, Busnes a Diwydiant, Gwastraff, Defnydd Tir, ac Amaethyddiaeth. Gyda'n gilydd, gallwn ni leihau ôl troed carbon Bwrdeistref Sirol Caerffili, gwella effeithlonrwydd ynni a chynorthwyo arferion cynaliadwy.

Pam mae hyn o bwys

Mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn fater brys ac mae'n effeithio ar bob un ohonom ni, yn enwedig ein trigolion mwyaf agored i niwed. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni greu amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy i bawb.

Cadw mewn cysylltiad

Rydyn ni’n eich annog chi i gadw mewn cysylltiad. Mae croeso i chi anfon e-bost atom ni os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu sylwadau. Mae eich cyfranogiad parhaus yn hanfodol i gyflawni ein nodau sero net.

Gyda'n gilydd, gallwn ni greu amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy i bawb.

Diolch unwaith eto am eich cyfranogiad a'ch cymorth.

Rhannu Rydw i'n cymryd rhan! ar Facebook Rhannu Rydw i'n cymryd rhan! Ar Twitter Rhannu Rydw i'n cymryd rhan! Ar LinkedIn E-bost Rydw i'n cymryd rhan! dolen

Rydw i'n cymryd rhan!

3 Mis

Mae gennym ni addewidion i unigolion a busnesau/sefydliadau eu gwneud. Parhewch i wirio gan ein bod ni’n bwriadu lansio addewidion newydd bob mis. Sylwch, does dim angen i chi adael eich enw llawn, ac NI fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei arddangos i ddefnyddwyr eraill.

Diweddaru: 27 Sep 2024, 03:56 PM