Hwb Hamdden a Lles Caerffili

Rhannu Hwb Hamdden a Lles Caerffili ar Facebook Rhannu Hwb Hamdden a Lles Caerffili Ar Twitter Rhannu Hwb Hamdden a Lles Caerffili Ar LinkedIn E-bost Hwb Hamdden a Lles Caerffili dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben 

Mae cynlluniau i adeiladu hwb hamdden a lles newydd o'r radd flaenaf yng nghanol Caerffili yn dwyn ffrwyth. Byddai'r hwb hamdden a lles newydd, sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio, yn cael ei hadeiladu ger Parc Busnes Caerffili, gan ddisodli'r ganolfan hamdden hen ffasiwn ym Mharc Virginia. Bydd y ganolfan yn cynnwys pwll nofio newydd, ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf, sba, ardaloedd chwarae a gweithgareddau i blant, caffi a chyfleusterau cymunedol a lles.

Mae’r datblygiad gwerth £33.6 miliwn yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r datblygiad hwn yn rhan annatod o uwchgynllun adfywio Caerffili 2035, gan gynorthwyo adfywiad economaidd y dref trwy gael rhagor o ymwelwyr, teithio llesol, cyfleoedd a balchder ar waith.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Nod yr ymgysylltu hwn yw hysbysu trigolion a busnesau am gynlluniau arfaethedig Hwb Hamdden a Lles Caerffili cyn cyflwyno cais ffurfiol am ganiatâd cynllunio a deall yr hyn mae ein cymunedau ni am ei weld yn cael ei ddarparu yn rhan o’r hwb hamdden a lles newydd arfaethedig. Rydyn ni'n awyddus i bobl sy’n defnyddio’r ganolfan hamdden bresennol ar hyn o bryd, yn ogystal â phobl sydd ddim yn gwneud hynny ar hyn o bryd, rannu eu barn er mwyn helpu llunio’r cynnig yn y dyfodol.

Dweud eich dweud

Os hoffech chi rannu eich barn, llenwch yr arolwg, gadael sylw ar ein bwrdd trafod, neu alw heibio i ddigwyddiad wyneb yn wyneb i gael trafodaeth gyda thîm y prosiect ar y dyddiadau isod. Mae cyfle hefyd i adael eich adborth chi yng Nghanolfan Hamdden bresennol Caerffili trwy gydol y digwyddiad.

Gallwch chi hefyd ofyn am fersiwn papur o'r arolwg drwy e-bostio ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864213. Mae'n bosibl dod o hyd i gopïau caled yng Nghanolfan Hamdden Caerffili hefyd.

Hyd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus

24 Tachwedd 2023 i 3 Ionawr 2024.

Sesiynau Cyfarfod y Tîm

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Alliance Leisure yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio i drigolion. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i drigolion drafod cynlluniau’r ganolfan hamdden ar gyfer y dyfodol, ac mae’n gyfle gwych i rannu barn a syniadau yn bersonol.

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Llyfrgell Caerffili

Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023

11am-1pm

Tŷ Penallta

Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023

12.30-2.30pm

Canolfan Hamdden Caerffili

Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023

5-7pm

Canolfan Vanguard Caerffili

Dydd Llun 11 Rhagfyr 2023

12-2pm

Canolfan Hamdden Caerffili

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023

10am-12pm

Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau, gysylltu â’r tîm drwy ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864213 .

Canlyniadau Disgwyliedig a'r Camau Nesaf

Mae tîm y prosiect wedi gweithio gyda chynllunwyr wrth i'r gwaith dylunio ddatblygu i sicrhau bod cynllun sy'n diwallu anghenion ardal leol Caerffili yn cael ei gyflawni. Gyda'r gwaith hwn wedi'i wneud, bydd gwybodaeth am ymgynghoriad cyn ymgeisio yn cael ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2023, a bydd hyn yn cynnwys adborth mae’r cynllunwyr wedi’i gael. Bydd proses yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn weithredol am gyfnod o 1 mis. Unwaith y bydd wedi’i chwblhau, bydd tîm y prosiect yn cymryd unrhyw sylwadau ac adborth a ddaeth i law ac yn ceisio eu hadolygu a’u hymgorffori yn y cyflwyniad cynllunio ffurfiol, sydd am gael ei wneud ym mis Ionawr 2024.

Trafodaethau: Holl (1) Agored (1)
  • Bwrdd Trafod Hwb Hamdden a Lles Caerffili

    6 Mis Ôl
    Rhannu Bwrdd Trafod Hwb Hamdden a Lles Caerffili ar Facebook Rhannu Bwrdd Trafod Hwb Hamdden a Lles Caerffili Ar Twitter Rhannu Bwrdd Trafod Hwb Hamdden a Lles Caerffili Ar LinkedIn E-bost Bwrdd Trafod Hwb Hamdden a Lles Caerffili dolen

    Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu eich sylw.

    Byddem ni wrth ein bodd yn clywed eich barn chi am Hwb Hamdden a Lles newydd Caerffili.  Gadewch sylw ar ein bwrdd trafod ni.